Gorchestion a Hynodion Seremonïau'r Orsedd
Enillwyd y dwbl-dwbl sef y Gadair a'r Goron yn yr un flwyddyn ddwywaith gan:
- T.H.Parry-Williams - 1912 a 1915
- Alan Llwyd - 1973 a 1976
- Donald Evans - 1977 a 1980
Cyn sefydlu'r rheol na ellir ennill y Gadair, y Goron na'r Fedal Ryddiaith fwy na dwywaith cafwyd sawl buddugwr gorchestol:
- Crwys - y Goron deirgwaith (1910, 1911 ac 1919)
- Cynan - y Goron deirgwaith (1921, 1923, 1931) a'r Gadair unwaith (1924)
- Caradog Prichard - y Goron deirgwaith (1927, 1928, 1929) - pob un yn amrywiaeth ar thema gwewyr gwallgofrwydd ei fam; a'r Gadair unwaith (1962)
- Dewi Emrys y Goron unwaith (1926) a'r Gadair bedair gwaith (1929, 1930, 1943, 1948). Dywedir iddo geisio gwerthu'i Goron i siop pôn.
Dilys Cadwaladr, yn Eisteddfod y Rhyl 1953, oedd y fenyw gyntaf i ennill y Goron. Ers hynny enillodd Eluned Phillips hi ddwywaith (1967, 1983) ac Einir Jones hi unwaith (1991).
Yn Eisteddfod Aberteifi 1976 dyfarnodd y beirniaid awdl gan Dic Jones ar y testun 'Gwanwyn' yn fuddugol ond oherwydd tor-rheol bwriwyd hi o'r gystadleuaeth a chadeiriwyd Alan Llwyd yn ei le.
Robat Powell o Lyn Ebwy oedd y dysgwr cyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod, yn y Rhyl yn 1985 am ei awdl 'Cynefin'.
Sion Eirian, yn 24 mlwydd oed, yw'r ieuengaf i ennill Coron y Brifwyl, yng Nghaerdydd, 1978.
Pan oedd y Prifardd John Gwilym Jones yn Archdderwydd (1993-96) cafodd y fraint o goroni'i frawd Aled Gwyn a chadeirio'i fab, Tudur Dylan, yn Eisteddfod Bro Colwyn, 1995. At hyn roedd brawd arall, T.James Jones, wedi ennill y Goron ddwywaith - yn Abergwaun 1986 a Chasnewydd 1988.
Roedd T. James Jones wedi cystadlu am y Goron gyda bardd o Americanwr, John Dressel yn 1979, dan y ffugenw 'Ianws', ond pan sylweddolwyd mai cywaith oedd y bryddest fuddugol ni ddyfarnwyd y Goron iddynt.
Mererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill y gadair yn Eisteddfod Dinbych, 2001 ac enillodd y Goron ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Eisteddfod Maldwyn, 2003.







