Cywydd cyfarch y Prif Lenor
Lawrlwythio'r MP3 (1.2MB):Emrys Roberts yw awdur y gerdd a genir i gyfarch y Prif Lenor wedi'i urddo yng Ngorsedd ar lwyfan y Brifwyl.
Sara Abigail sy'n canu pennill cyntaf (o bump) y cywydd cyfarch yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch, 2004:
"Rhown i ti fawl ein Prifwyl,
Rhown gainc i lenor ein gŴyl;
Swyn dyddiau Awst sy'n dy ddull,
Hirddydd o haf dy arddull
A'i thinc megis cyfoeth hen
Storïau a'u cystrawen. …"







