Cyflwyniad

Mae'r cerrig, y mwynau a'r ffosilau sydd i'w gweld o'n cwmpas ni ym mhob man yn gymorth i ni ddeall hanes daearegol y Ddaear o'i dechreuadau tua 4,600 miliwn o flynyddoedd yn ôl, heb sôn am y prosesau a ffurfiodd ac a luniodd gramen y Ddaear. Mae'r casgliadau a gedwir gan yr Adran Ddaeareg yn dangos yn benodol dystiolaeth am sut yr esblygodd Cymru fel y gwyddom amdani heddiw tros gyfnod o 700 miliwn o flynyddoedd. Mae'r wybodaeth sydd yn y sbesimenau hyn yn dangos sut y llithrodd Cymru yn raddol o'r hemisffer deheuol i'w lleoliad presennol 52 gradd i'r gogledd o'r cyhydedd.

Os ydym am reoli'r amgylchedd, yn ogystal â manteisio ar ei adnoddau, mae'n hollbwysig i ni ddeall esblygiad daearegol a'r prosesau sy'n ei yrru.
Rydyn yn cadw casgliadau helaeth, gan arbenigo'n benodol yn y meysydd canlynol:

Palaeontoleg
- Anifeiliaid di-asgwrn-cefn o'r cyfnod Paleosöig, gan gynnwys brachiopodau, trilobitau a bryosoaid
- Molysgiaid o'r cyfnod Mesosöig, yn arbennig amonitau a chregyn deuddarn o'r cyfnod Jwrasig
- Planhigion Paleosöig, gan arbenigo ar fflora o'r cyfnod Silwraidd-Ddefonaidd a'r cyfnod uwch-Garbonifferiadd
- Mae ein hastudiaethau o fioamrywiaeth ffosilau yn edrych ar bob agwedd ar dacsonomeg, esblygiad, bioddaearyddiaeth a phalaeoecoleg.

Petroleg
- Creigiau a phrosesau folcanaidd, yn arbennig yr oesau Ordofigaidd a Phaleogenaidd.
- Metamorffedd graddfa isel
- Geocemeg
- Esblygiad ansoddau gwaddodol Paleosöig
- Cymhlygau islithrol cyn-Gambriaidd
Mwnyddiaeth
- Casgliadau diffiniol o fineralau Cymreig ynghyd â'r cronfeydd data perthnasol am safleoedd y cloddfeydd.
Yn ogystal â hyn mae gan yr Adran:
- archifau
- casgliadau cynhwysfawr o fapiau daearegol a thopograffaidd ar gyfer y DU a llawer rhanbarth dramor
- dogfennau hanesyddol a bywgraffyddol pwysig sy'n gysylltiedig â datblygiad cynnar y gwyddorau daearegol
- llyfrgell fawr sy'n cynnwys pob agwedd ar balaeontoleg, mineroleg a phetroleg.

Mae'r casgliadau yn adnodd anhepgor. Anogwn bawb i werthfawrogi'r casgliadau drwy edrych arnynt, ymchwilio iddynt ac, yn bwysicaf oll, ychwanegu atynt.
Ewch i edrych o ddifri' ar y wlad o'ch cwmpas: mae'n adlewyrchu 700 miliwn o flynyddoedd o hanes! Mae ein staff ni wrth law i'ch cynorthwyo chi i werthfawrogi a deall yr hanes hwnnw.

AC YN OLAF: dewch i weld ein harddangosfa hynod Esblygiad Cymru, taith gyffrous dros y moroedd a thrwy'r oesoedd wrth i chi ddilyn Cymru ar draws wyneb y Ddaear o'i dechreuadau miliynau o flynyddoedd yn ôl. Daw'r hanes yn fyw trwy gyfrwng ffilm, sain, golau a sbesimenau trawiadol.
Cynnwys cysylltiedig o rhagor
Erthyglau: Ffosilau mewn carreg: Paratoi ffosilau gydag asid
7 Mehefin 2011Erthyglau: Bywyd ffosil – ar raddfa wahanol
8 Mawrth 2011Erthyglau: Ffosil Ymlusgiad o Dde Cymru
12 Gorffenaf 2010Erthyglau: Cyfrinachau'r amonitau
26 Chwefror 2010Erthyglau: Adnabod mwynau yn Amgueddfa Cymru
7 Rhagfyr 2009









