Gwisgoedd y Gorseddogion
Perthyn i'r Orsedd dair Urdd:
- Urdd Ofydd (gwisg werdd)
- Urdd Bardd (gwisg las)
- Urdd Derwydd (gwisg wen)
Gwisga rhai o aelodau Urdd Derwydd lawryfon o ddail derw i arwyddo'u bod wedi ennill naill ai'r Goron neu'r Gadair genedlaethol ac y mae rhai o swyddogion yr Urdd mewn gynau lliw hufen i nodi'u bod â chyfrifoldebau neilltuol yng Ngorsedd.
Mae'r gwisgoedd hyn yn wahanol iawn i wisgoedd Gorsedd gyntaf Iolo Morganwg yn 1792, lle disgwylid i'r beirdd ymddangos yn droednoeth a phennoeth yng Nghylch yr Orsedd. Trwy glymu ysnodenni lliw gwyn, glas neu wyrdd am eu breichiau yr oedd Iolo yn dynodi eu bod wedi'u hurddo yn Feirdd. Dyna fu'r drefn tan tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Yna, yn 1858, yn Llangollen gwisgai Beirdd yr Orsedd urddwisgoedd trilliw â chennin a thywysennau ŷd arnynt a charient wialenni wrth orymdeithio. Yn sicr y ddau fardd hynotaf eu gwisg oedd yr egsentrig Myfyr Morganwg yn cario ŵy cyfriniol y Derwyddon yn hongian am ei wddf a'r Dr William Price, Llantrisant, yn ei benwisg cadno.
Yng Ngorsedd yr Wyddgrug, 1873, ymddangosodd y Gorseddogion yn urddwisgoedd eu hamryfal Gymdeithasau Cyfeillgar, a oedd yn boblogaidd iawn yn y cyfnod hwn. Yn Lerpwl, 1884, roedd y prif Orseddogion mewn ffedogau a sashis o sidan glas golau â'r Nod Cyfrin arnynt.
Yn y darluniau o Orseddau Caernarfon, 1894 a Llandudno 1896 gwelir fod y gwisgoedd yn araf esblygu, gyda'r beirdd mewn gynau gorseddol a beretau duon â'r Nod Cyfrin arnynt. Het, tebyg i feitr neu het esgob, â'r Nod Cyfrin arni oedd gan yr Archdderwydd.
Dyma'r cyfnod pan oedd dwy bersonoliaeth a oedd i ddylanwadu'n fawr ar ymddangosiad yr Orsedd - yr Arwyddfardd, Arlunydd Pen-y-garn a'r Athro Hubert Herkomer wrthi'n ail-gynllunio'r urddwisgoedd. Brodor o Bafaria oedd Herkomer (1849-1914) a bu'n Athro Slade Celfyddyd Gain Rhydychen ac, wedi 1890, yn Gymrawd yr Academi Frenhinol. Ei gyswllt pennaf â Chymru oedd trwy ei ail wraig, Lulu Griffiths, Stanley House, Rhuthun, ac ar ei marwolaeth priododd ei chwaer, Edith. Roedd Herkomer yn athrylith creadigol - yn of, paentiwr, ysgythrwr, pensaer, golygydd, dramodydd ac actor.
Dyma sut y disgrifiodd e'r urddwisg a ddyluniodd:
'The foundation of the robe is of ordinary smock shape with sleeves and buttoning behind the neck. Upon the smock are placed hanging draperies three upon each side falling from the shoulders. One hangs in a loop around the sleeves, the two others are free, one long one to hang behind and a shorter one in front. … This gathering of folds should be finished by the wearing of a Celtic brooch on either or both sides. An important portion of the costume is the hood which contains a small cap from which it falls covering the neck.'
Ac wedi iddo gwblhau'r gwaith, meddai 'To me it has been a special pleasure to contribute towards the safety of the Gorsedd's future picturesqueness.'
Gwariodd yr Ardalydd Bute, Arglwydd Mostyn a Syr Watkin Williams Wynne yn hael ar yr urddwisgoedd newydd hyn.
Erbyn 1917, fodd bynnag, roedd y gwisgoedd wedi dirywio'n enbyd, fel y disgrifiodd Winfred Coombe-Tennant, Mam o Nedd:
'Rhyfeddol oedd gorymdaith y Beirdd yr adeg honno! Gwisgoedd rhai wedi torri, a heb fod yn lân, neu'n cyrraedd ychydig yn is na'r penglin; eraill yn cael eu cadw oddi ar y llawr trwy gymorth safetypins.'
Yn y pendraw sefydlwyd Pwyllgor Gwisgoedd yr Orsedd gan y Beili Glas (D. Rhys Phillips) gyda'r Arglwyddesau Mostyn, Hughes-Hunter a Howard-Stepney, Angela Stepney-Gulston, Awen Mona, Mam o Nedd ac eraill arno. Adnewyddwyd y gwisgoedd yn rheolaidd ers hynny.
Yng Nghasnewydd 1988, wedi cystadleuaeth ymysg myfyrwyr Coleg Celf Dyfed, darparwyd clogyn porffor tywyll a'i addurno ag aur, o gynllun a gwaith Jennie Anthony, i arwisgo'r bardd (a'r llenor) buddugol ar lwyfan y Brifwyl.
Mae gan aelodau eraill o basiantri'r Orsedd eu hurddwisgoedd pwrpasol hefyd; e.e. Cludwyr y Faner; Swyddogion y Llys, a'r pibyddion.







