Sgrôl y Cyhoedd
Yn y seremoni i gyhoeddi y bydd Eisteddfod a Gorsedd yn cael eu cynnal mewn man penodol ar ôl blwyddyn a diwrnod bydd Cofiadur yr Orsedd yn darllen Sgrôl y Cyhoeddi.
Defnyddiwyd Sgrôl yn 1791 cyn yr Orsedd gyntaf un. Yn y Sgrôl gyntaf hon gwelir nifer o nodweddion sgroliau diweddarach; nodir:
- y flwyddyn a'r tymor;
- ymhle y cynhelir yr Orsedd;
- na fydd 'noeth arf' yn erbyn y beirdd;
- rhai o'r cyswyneiriau a ddaeth yn rhan anhepgor o seremonïau'r Orsedd wedi hynny, megis: 'Yn Llygad Haul, wyneb Goleuni'; 'Duw a phob Daioni'.
Ychwanegwyd y 'Nod Cyfrin' at Sgrôl y Cyhoeddi gan Talieisn ab Iolo yn 1833.
Yn 1946 lluniodd yr arlunydd, Meirion Roberts, Sgrôl newydd hardd a rhoddwyd hi i'r Orsedd gan Mam o Nedd. Wrth ei dylunio mewn du, coch ac aur, llwyddodd Meirion Roberts i ymgorffori Cleddyf Mawr a Chorn Gwlad yr Orsedd ac arfbais Tywysogion Gwynedd yn y brif lythyren Geltaidd addurniedig. O amgylch y testun cyflwynodd arfbeisiau tair sir ar ddeg Cymru (cyn 1974); dail derw, mes a draig goch ond nid yw'r Nod Cyfrin ar y Sgrol o gwbl.







