Eisteddfodau a Gorseddau hanesyddol ddiddorol
(Cliciwch i fwyhau)
Poster Eisteddfod a Gorsedd Genedlaethol, Lerpwl, 1900 yn dangos pa mor Seisnig yr oedd yr ŵyl ar droad yr ugeinfed ganrif.
(Cliciwch i fwyhau)
Modelau pren o Orsedd Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1914 (ohiriwyd tan 1915) gan Gwmni'r Vale of Clwyd Toys, Trefnant, sir Ddinbych.
(Cliciwch i fwyhau)
Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938 o Ffatri Bryn-mawr.
Mae seremonïau'r Eisteddfod a'r Orsedd yn adlewyrchu digwyddiadau o bwys hanesyddol ar adegau.
- Cyfnod brwydrau rhyddfreinio menywod oedd blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif a gwelwyd y swffragetiaid yn targedu'r Prif Weinidog, Asquith, yn Eisteddfod Llundain yn 1909. Yr oedd ymateb yr Archdderwydd Dyfed i'w 'rhyfyg' yn ei englyn byrfyfyr yn nodweddiadol o agwedd batriarchaidd y sefydliad Cymreig ar y pryd:
'Benyw mewn ffrae â'i bonet - yw y fun
Yn Wrecsam yn 1912 Lloyd George ei hun oedd y targed yn ei araith brynhawn y Cadeirio. Gwylltiodd y dorf o 13,000 yn y babell fod y menywod yn beiddio herio anwylyn y genedl. Ymosodwyd yn gorfforol arnynt, gan dynnu'u gwalltiau a rhwygo'u dillad; 'yr oedd y pafiliwn yn ferw drwyddo.'
A wna beirdd yn darget,
Un belen o'i gwn bwlet
Aiff i'r jael â'r Swffraget.' - Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf allan yn 1914 gohiriwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor tan 1915; yna bu'n Aberystwyth yn 1916, Penbedw yn 1917 a Chastell-nedd yn 1918. Yn ystod y gorseddau rhyfel hyn ni ddadweiniwyd y Cleddyf Mawr ac ni erfyniwyd am 'Heddwch'.
- Dioddefodd Cymru ddirwasgiad dwys rhwng y rhyfeloedd. Symbol o hynny oedd i Gadair Eisteddfod Genedlaethol 1938 gael ei gwneud yn ffatri ddodrefn Bryn-mawr, ffatri a agorwyd gan y Crynwyr yn y dref honno i geisio lliniaru peth ar y diweithdra enbyd.
- Â hithau'n Ail Ryfel Byd gwaharddwyd cynnal Eisteddfod 1940 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Aberpennar am eu bod yn ardaloedd peryglus. O'r herwydd cynhaliwyd Eisteddfod radio.
- Yn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif brwydr yr iaith Gymraeg oedd prif gonsýrn llawer o'r Gorseddogion a chlywid sawl Archdderwydd yn lleisio'i farn yn groyw ar y pwnc o'r Maen Llog. Yn ôl Tilsli, Gwyndaf gychwynnodd y dull newydd hwn o areithio 'gan drafod cwestiynau llosg a rhoi arweiniad pendant.'
