Amheuwyr a beirniaid
Er bod cymaint o Gymry wedi llyncu'n ddi-halen honiadau Iolo Morganwg am hynafiaeth a nodweddion Gorsedd Beirdd Ynys Prydain roedd rhai, hyd yn oed ymysg ei gyfoedion, yn llai hygoelus, gan gynnwys:
- John Walters (1721-1797) a'i galwodd yn 'a made Dish'
- Edward (Celtic) Davies (1756-1831), awdur llyfrau ar y Derwyddon
- William Williams, Llandygái (1738-1817) a gredai 'no vouches can be produced (for it) but the brains of Iolo Morganwg'
- J. W. Prichard, Plas-y-brain, Llanbedr-goch (1749-1829) a ffieiddiai Iolo fel 'dyn ar ddrygioni bob amser, … yn dyfeisio rhyw gelwyddau i geisio twyllo'r byd'
- Thomas Stephens (1821 -75) a feirniadodd y gyfundrefn dderwyddol a gorseddol yn Yr Ymofynnydd, 1852-3
Yna, cafwyd amheuon ymhlith ysgolheigion ac academwyr prifysgol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen:
- John Rhŷs (1840-1915), ysgolhaig Celtaidd a benodwyd yn athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen yn 1877. Galwodd e'r Orsedd yn 'antiquarian humbug, positively injurious to the true interests of the Eisteddfod'
- John Morris-Jones (1864-1929), Athro Cymraeg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor o 1895 ymlaen. Mewn cyfres o bump erthygl ddeifiol yn Cymru 1896, taflodd amheuon ar hynafiaeth honedig yr Orsedd a daeth i'r casgliad (cyfeiliornus) i'r seremonïau gael eu cyflwyno gan feirdd Morgannwg yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg. Ychwanegodd 'nid yw'r cyfan ond chwarae plant'
- G. J. Williams (1892-1963), Athro Cymraeg Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd o 1947 ymlaen. Trwy ei ymchwil manwl i draddodiadau Morgannwg a hanes Iolo ei hun tanseiliodd hynafiaeth a hygrededd yr Orsedd yn llwyr mewn erthygl yn Y Llenor yn 1922. Iddo ef 'noddfa cwacyddiaeth' ydoedd, a'i haelodau 'namyn aelodau difudd o sefydliad a sylfaenwyd ar dwyll ac a gynhaliwyd gan ryfyg ac anwybodaeth'. Ac eto, roedd yn barod i gydnabod 'y geill sefydliad diweddar fod o fendith i genedl.'







