Mac Training

Dim ots a ydych chi’n defnyddio Mac am y tro cyntaf, neu’n ddefnyddiwr Mac sydd am edrych yn fanylach ar feddalwedd arbennig, mae gweithdy neu gwrs ar gael i fodloni’ch anghenion.
Yn meddwl am ddefnyddio Mac?
Mae llawer o athrawon yn dechrau sylweddoli pa mor addas yw’r cyfrifiadur Mac at anghenion dosbarth. Mae’r gyfres o raglenni iLife yn berffaith i integreiddio’r gwaith o greu ac addasu ffotograffau, ffilmiau, ffeiliau sain, podlediadau a dolenni ar gyfrifiaduron sy’n gweithio ar sail Windows ar hyn o bryd. Mae hi’n fuddsoddiad sylweddol, felly mae’n fuddiol cael profiad ymarferol i weld a yw’r feddalwedd yn addas i’ch ysgol ac yn cyd-fynd â’ch amcanion dysgu. Mae ein cyrsiau a’n gweithdai’n ddelfrydol i werthuso pethau fel hyn.
Mae gweithdai a chyrsiau rhad ac am ddim ar gael sy’n cyflwyno cyfres raglenni iLife a gweithdai sy’n edrych ar bynciau arbennig i wella creadigrwydd yn y dosbarth. Mae’r rhain yn cynnwys adrodd straeon digidol, iMovie, Garageband a Podcasting. Yn ogystal â bod yn gyflwyniad rhagorol i’r rhaglenni syml ond pwerus hyn, mae’r cyrsiau’n rhoi sylfaen gadarn yn y technegau ac yn cynnig syniadau am ffyrdd creadigol o ddefnyddio cyfryngau digidol wrth gyflwyno’r cwricwlwm. Mae cyrsiau mwy cyffredinol ar gael ar ddefnyddio Mac, defnyddio Microsoft Office ar Mac a defnyddio rhaglenni IWork fel Keynote a Pages hefyd. Os ydych chi am gael mwy o ymarfer ar olygu ffotograffau, mae cwrs ar gael sy’n edrych ar Photoshop Elements.
Cyrsiau gwyliau
Byddwn ni’n cynnal ambell i weithdy yn ystod gwyliau’r haf i gynnig profiad ymarferol o greu ffilmiau digidol a phodledu. Felly os ydych chi’n ei chael hi’n anodd cymryd amser o’r ysgol, dewch i fwynhau gyda’r dechnoleg ddiweddaraf mewn awyrgylch hamddenol ac anffurfiol yn un o’n hamgueddfeydd.
Diwrnodau HMS
Mae cyrsiau rhad ac am ddim ar gael am ddiwrnodau HMS ar gyfer hyd at naw o athrawon neu gynorthwywyr dysgu. Gallwn ni ddefnyddio eich cyfrifiadur chi, neu ddod â gliniaduron Macbook ac offer fideo/sain.I gysylltu
I holi am gwrs neu weithdy, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chris Bowler trwy’r tudalennau cyswllt.







