Canllaw I’r Data Am Fwynau
Mae rhestr o enwau mwynau yn nhrefn yr wyddor. Fe ffeindiwch chi’ch ffordd trwy ddilyn system A-Z syml. Gallwch gyrchu data trwy ddefnyddio offeryn Chwilio am Fwynau (Saesneg yn unig) . Caiff y data o fewn pob cofnod ei rannu yn ôl y categorïau hyn.
| Enw’r Mwyn | Mae hyn yn dilyn sillafiad cymeradwy CNMMN – IMA (manylion CNMMN ar y dudalen isod) |
| Statws yng Nghymru | Categorïau achos wedi ei gadarnhau wedi ei gadarnhau – math o leoliad yng Nghymru wedi ei gadarnhau – cofnod 1af yn y DU wedi ei gadarnhau – 2il gofnod yn y DU wedi ei gadarnhau – 3ydd gofnod yn y DU heb ei gadarnhau wedi ei wrthbrofi enw mwyn wedi ei wrthbrofi/wedi darfod |
| Dosbarthiad | Amcan bras o amlder y mwynau yng Nghymru e.e. Pob man Cyffredin Cyffredin yn lleol Anghyffredin Prin |
| Cyfansoddiad cemegol | Disgrifiad cyffredinol o’r cyfansoddiad cemegol |
| Fformwla gemegol | Fformwla gemegol yn ôl yr IMA |
| Grŵp cemegol | Grŵp cemegol bras y mwyn (e.e. silicad, sylffid) |
| Gwiriad | Dyma sut cafodd yr enw ei gadarnhau. Dyma’r prif ddulliau a restrwyd: Gweledol Microsgop (polaru, golau adlewyrchol neu finocwlar) XRD – dadansoddiad o ddiffreithiant pelydr-X IR – dadansoddiad is-goch Microstiliwr electron Cemeg gwlyb |
| Lleoliadau | Rhestrir prif ardaloedd y mwyn yma. Nid rhestr gynhwysfawr mo hon, ond mae’n cynnwys yr enghraifft orau neu gynrychioliadol. |
| Cyflwyniad | Gorolwg o gyfansoddiad a lleoliad y mwyn. |
| Lleoliadau yng Nghymru | Mwy o wybodaeth benodol am leoliadau’r mwyn yng Nghymru. |
| Cyd-destun | Canllaw i’r cyd-destun daearegol lle mae’r mwyn yn codi. Gall rhai mwynau fod yn bresennol mewn sawl math o le (e.e. pyrit) tra bod eraill yn bresennol mewn un math o le’n unig (e.e. glawcoffan). Mae’r rhain yn berthnasol i Gymru’n unig, a cheir rhagor o fanylion am bob un o dan ‘Gwybodaeth Ddaearegol’. |
| System grisialau | Gellir dosbarthu mwynau i saith system grisialau, ciwbig, pedronglog, trigonol, chweonglog, orthorhombig, triclinig, monoclinig. Os oes ansicrwydd, mae’n bosibl y bydd gan rai mwynau fwy nag un system wedi ei rhestru, ac mae eraill wedi eu rhestru fel amorffaidd, lle nad yw’r system grisialau’n hysbys. |
| Cyfeiriadau | Cyfeiriadau at wybodaeth a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion gwyddonol, llyfrau a chylchgronau. |
