Golygon y Dyfodol 2001
Rydyn ni wedi lansio yr ail ran o'n ymgynghoriad ar ddyfodol arddangos celfyddyd - 'Golygon y Dyfodol'.
Cychwynnodd y broses yn 2001 o ystyried y dewisiadau ar gyfer arddangos celfyddyd yn y dyfodol, yn enwedig celfyddyd er 1945 a'r gelfyddyd sy'n cael ei chysylltu â Chymru. Mae'r adroddiad ar Ran 1 (gan yr hwylusydd annibynnol, David Clark o DCA) ar gael ar ein gwefan.
Yn dilyn y trafodaethau yma, canlyniad amrywiaeth o weithdai, dadleuon a thrafodaethau gyda chydweithwyr mewn sefydliadau yng Nghymru, oedd y ddogfen Golygon y Dyfodol. Mae'r ddogfen hon yn cynnig cyfres o ddewisiadau ac yr ydym bellach yn chwilio am farn gymaint o bobl a sefydliadau sydd â diddordeb yng nghelfyddyd a diwylliant Cymru ag sy'n bosibl arni.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, fe rhyddhawyd y ddogfen Ymatebion, sy'n amlinellu'r gwaith parhaus sy'n cael ei wneud yn y maes.
- Golygon y dyfodol
Papur ymgynghori (PDF, 160KB)
- Dyfodol Arddangos Celf
Papur ymgynghori (PDF, 111KB)







