Bwyd a Diod - Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, rydyn ni'n ymfalchïo mewn darparu bwyd da o safon, sy'n cael ei goginio ar y safle gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig lleol lle bo modd.
Mae Bwyty'r Fro ar lawr cynta'r amgueddfa'n gwerthu cinio cynnes ac oer; amrywiaeth o frechdanau baguettes a salad; cawl cartref; cacennau a diodydd poeth ac oer.
Rydyn ni'n croesawu teuluoedd ac mae pecynnau cinio ar gael i blant, prif brydau i blant a phrydau arbennig i blant ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae Bwyty Bardi yn y Cyntedd yn gwerthu dewis o gacennau cartref a brechdanau, ynghyd â diodydd poeth ac oer.
Ystafell De draddodiadol o'r 1930au sydd i fyny'r llofft yn Siop Gwalia ac mae'n gwerthu cinio ysgafn a the'r prynhawn.
Gwerthir hufen iâ blasus Mary's Farmhouse, heb unrhyw ychwanegion ym Mwyty'r Fro, Bwyty Bardi ac o gwmpas y safle.
Mae cadeiriau uchel ar gael i fabanod yn y safleoedd uchod.
Mae sawl ardal i fwyta tu allan yn yr awyr agored ar y safle ac y mae Popty'r Dderwen yn gwerthu bara a byrbrydiau eraill.
Partïon Plant
Beth am gynnal parti pen-blwydd eich plentyn yma yn Sain Ffagan? Mae digonedd o adloniant i ddiddanu'r plant am oriau – gyda dros 100 erw o diroedd a dau faes chwarae. Gallwn ni ofalu am y bwyd a'r diod gyda dewis o brydau oer a phoeth, pwdinau a diodydd.
Ymweliadau Grŵp.
Os ydych chi'n bwriadu dod â grŵp i Sain Ffagan, cysylltwch â ni cyn dod i drefnu lluniaeth wrth gyrraedd, amser cinio neu cyn gadael am bris arbennig.
Byddai'n dda pe baech chi'n gallu ein rhybuddio ni ymlaen llaw am grwpiau mawr fydd yn dod i'r Amgueddfa er mwyn ein galluogi ni i gynllunio eich cyfer.
Hanes ar Log
Oeddech chi'n gwybod bod modd llogi'r Amgueddfa am bob math o ddigwyddiadau corfforaethol a phreifat? Mae'r Amgueddfa'n lle unigryw i gynnal cyfarfod, achlysur lansio, brecwast priodas neu gynhadledd. Mae Digby Trout Restaurants yn gweithio mewn partneriaeth â'r Amgueddfa i gynnig arlwyaeth a gwasanaeth o ansawdd eithriadol. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Anwen Jones ar (029) 2057 3500.
Manylion Cyswllt
Am fanylion cyswllt ar gyfer y cyfleusterau arlwyo yn yr Amgueddfa Genedlaethol, croeso i chi ein ffonio ni'n uniongyrchol ar (029) 2057 3414.
Oriau Agor
Bwyty'r Fro
Dydd Llun – Gwener: 11am–3pm
Penwythnosau, Gwyliau Banc a Gwyliau Ysgol: 10am–3pm
Bwyty Bardi
10.30am–4.30pm
Ystafell De Gwalia
11am–4pm
Am Elior
Darperir arlwy yn fewnol gan yr arlwywr sector celfyddydau a threftadaeth arbenigol, Elior. Mae'r tîm profiadol hwn yn darparu bwydlenni sy'n ysbrydoli a gwasanaeth di-ail. Caiff y bwyd ei baratoi ar y safle gan ddefnyddio cynhwysion lleol ffres ar bob cyfle posibl.









