Bwyty a Siop Goffi - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd




Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, rydyn ni'n ymfalchïo mewn darparu bwyd da o safon, sy'n cael ei goginio ar y safle gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig lleol lle bo modd.
Mae Bwyty Oriel ar islawr yr Amgueddfa'n gwerthu cinio cynnes ac oer (12pm-2.30pm), amrywiaeth o frechdanau a baguettes, cawl cartref, cacennau a diodydd poeth ac oer. Rydyn ni'n croesawu teuluoedd ac mae pecynnau cinio, prif brydau bach a phrydau arbennig ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol ar gael i blant.
Mae'r Siop Goffi yn y Brif Neuadd ac yn lle wych i fwynhau yr adeilad ei hun. Yma rydyn ni'n gwerthu dewis o gacennau cartref a brechdanau, ynghyd â diodydd poeth ac oer.
Mae cadeiriau uchel ar gael i fabanod yn y ddau le.
Partïon plant
Beth am gynnal parti pen-blwydd eich plentyn yma? Mae digonedd o adloniant i'w diddanu nhw am oriau – o'r deinosoriaid i'r amrywiaeth o weithgareddau yn Canolfan Ddarganfod Clore. Gallwn ni ofalu am y bwyd a'r diod gyda dewis o brydau oer a phoeth, pwdinau a diodydd.
Ymweliadau grŵp
Os ydych chi'n bwriadu dod â grŵp, cysylltwch â ni cyn dod i drefnu lluniaeth wrth gyrraedd, amser cinio neu cyn gadael am bris arbennig.
Byddai'n dda pe baech chi'n gallu ein rhybuddio ni ymlaen llaw am grwpiau mawr fydd yn dod i'r Amgueddfa, er mwyn ein galluogi ni i gynllunio ar gyfer eich ymweliad - diolch.
» Mwy o wybodaeth am ymweliadau grŵp
Manylion cyswllt
Am fanylion cyswllt ar gyfer y cyfleusterau arlwyo, croeso i chi ein ffonio ni ar (029) 20573336.
Oriau agor
Bwyty Oriel
Dydd Mawrth–Gwener 10am–2.30pm
Penwythnosau, Gwyliau Banc a gwyliau ysgol 10am–3pm
Prydau Cartref y Dydd
Bwydlen Plant Dine-osaur
Siop Goffi
10.30am–4.30pm
Gwledda a chynadledda
Mae'r Amgueddfa'n lle gwych i gynnal digwyddiadau ac mae cyfleusterau ar gael i'w llogi. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Neil Harrison ar (029) 20573387.
Masnach Deg
Mae te, coffi a melysion MASNACH DEG ar gael










