Polisïau Rheolaeth Casgliadau - Ystyriaethau Moesegol
Mae gan bob amgueddfa gasgliadau sy'n cael eu cadw er budd y gymuned y mae yn ei gwasanaethu. O'r herwydd, mae gan amgueddfeydd ddyletswydd i weithredu er lles y cyhoedd yng nghyswllt stiwardiaeth y casgliadau. Mae'r angen i amgueddfeydd weithredu yn foesegol yn sail i'r egwyddor hon. Yn wir mae saith egwyddor yr Arglwydd Nolan ynglŷn â bywyd cyhoeddus, a gyflwynir isod, yr un mor addas ar gyfer gweithwyr amgueddfeydd ag unrhyw wasanaeth cyhoeddus arall. Maent hefyd yn addas ar gyfer unigolion ar fyrddau llywodraethu amgueddfeydd. Y saith egwyddor yw:
- Anhunanoldeb - dylid gwneud pob penderfyniad er budd y cyhoedd
- Uniondeb - ni ddylai unigolion roi eu hunain mewn sefyllfa o rwymedigaeth ariannol neu rwymedigaeth arall i gyrff allanol a allai beryglu eu perfformiad ar ran yr Amgueddfa
- Gwrthrychedd - dylid gwneud pob penderfyniad yn ôl haeddiant
- Atebolrwydd - dylai unigolion fod yn atebol am eu penderfyniadau a'u gweithredoedd
- Natur Agored - dylai unigolion fod yn agored ynglŷn â phenderfyniadau a'r camau a gymerir
- Gonestrwydd - dylid datgan unrhyw fuddiannau personol a datrys unrhyw wrthdaro, a hynny er budd y cyhoedd
- Arweinyddiaeth - dylai unigolion hyrwyddo'r egwyddorion hyn trwy ddangos arweinyddiaeth ac esiampl i eraill
Mae Amgueddfa Cymru yn cymeradwyo Côd Moesegol Cymdeithas yr Amgueddfeydd ac mae'n ceisio sicrhau fod pob aelod staff a phob aelod o'i fwrdd llywodraethu yn arfer yr egwyddorion sydd ynddo.













