Bwletin 10
Medi 7




Y newyddion yn gryno
Wrth i'r tymor olaf brysur ddirwyn i ben, mae'r tîm yn gweithio fel lladd nadroedd i brosesu'r darganfyddiadau a chwblhau'r cofnodion archeolegol. Mae darganfyddiadau newydd yn ein helpu i ddeall adeiladwaith y ffwrn.
Mark Redknap
Mae gweithgareddau heddiw wedi bod yn amrywiol iawn - gwaith tynnu lluniau gan Kevin Thomas, ffotograffydd yr Amgueddfa, yn bwrw golwg dros y safle o ben craen casglu ffrwythau; a deall adeiladwaith y ffwrn unwaith ac am byth a dyfalu sut y gweithiai. Byddai'r trwch o haenau tanio ac ail-leinio sy'n gorwedd mewn pant yn dueddol o gael eu boddi heb ddraeniad, ac fe gafwyd hyd i draen, wedi'i leinio â cherrig, ynghyd â gwli yn arwain o waelod y ffwrn tua'r de, ac yna drwy wal gan ddraenio i mewn i ddyddodion tomen sbwriel ar lefel isel y tu hwnt i'r llecyn. Heddiw, paratowyd adran newydd i chi: 'barn y tîm!' - gweler y bwletin nesaf.
Mark Lodwick
Rydym bron â gorffen; yfory yw diwrnod olaf y tymor olaf! Treuliwyd ddoe a heddiw i wneud yn siwr bod gennym doriadau, cynlluniau, ffotograffau a chofnodion o'r holl archeoleg a ddarganfuwyd gennym. Rhwng y cofnodi gwnaed tipyn o waith cloddio ychwanegol. Llwyddwyd i lwyr ddatgelu ffos ym mhen gorllewinol y cloddiad ffos, a nodwyd gyntaf yn 1997.
Mae'r gladdedigaeth, y credwn, bellach, ei bod hi'n ferch yn ei hugeiniau cynnar, wedi'i chofnodi'n fanwl, ei chodi'n ofalus a'i phacio.
Yn olaf, diolch i'r tîm mwyaf medrus, parod ei gymwynas a hapus rydw i wedi cydweithio ag e' ers tro byd.
Brian
Treuliwyd y diwrnodau diwethaf yn ceisio deall adeiladwaith mewnol adeilad y ffwrn, wrth i ddau dwll postyn ddod i'r amlwg ger ochr ddeheuol yr adeilad ac un twll postyn mawr ar yr ochr orllewinol. Rydym wedi cloddio rhan o'r draen i'r de o'r adeilad, sy'n gorwedd yn union uwchlaw'r ffos.
Edrychwyd ar ambell lecyn arall diddorol eu golwg ac fe gafwyd hyd i ffos hanner-cron, a oedd yn perthyn i gyfnod arall, i'r gogledd o'r ffwrn.
Evan
Ar ddiwedd y dydd ddoe penderfynwyd rhoi'r gorau i olchi darganfyddiadau er sicrhau y bydd yr esgyrn yn sych, neu bron yn sych, erbyn y daw hi'n amser i'w pacio a'u cludo yn ôl i'r Amgueddfa. Heddiw, canolbwyntiais ar osod darganfyddiadau mewn bagiau a'u cofnodi, tra oedd rhai o'r gwirfoddolwyr yn gweithio'n galed yn gogrwn, gyda chymorth dŵr, cymaint â phosib o ddyddodion y darddell. Gan fod amser yn drech na ni, eir â gweddillion y gogrwn yn ôl i'r Amgueddfa er mwyn eu didoli.







