Bwletin 9
Medi 5



Y newyddion yn gryno
Claddedigaeth newydd, mewn lleoliad anarferol, yw'r syndod diweddaraf; ac mae'r gwaith gogrwn wedi esgor ar fymryn o aur!
Mark Redknap
Mae wythnos olaf cloddiad yn aml yn esgor ar bethau annisgwyl, ac nid yw ein blwyddyn olaf yn Llanbedr-goch yn eithriad yn hyn o beth! Cafwyd hyd i gladdedigaethau yn ystod pob un o'r tri thymor cloddio y tair blynedd diwethaf, a ddoe darganfuwyd claddedigaeth arall yng ngwaddodion y domen sbwriel yng Nghloddiad Ffos y Darddell - y tu mewn i'r closdir ac yn cyfeirio'r tua'r dwyrain-gorllewin (y pen tua'r dwyrain). Unwaith eto, mae lleoliad y gladdedigaeth yn anarferol er, yn wahanol i'r claddedigaethau y cafwyd hyd iddynt yn llenwad y ffos, mae'r corff wedi'i osod i orwedd yn gywir. Efallai y daw gwir arwyddocâd hyn i'r amlwg wrth iddo gael ei lwyr ddinoethi. Cyfiawnhawyd hefyd y penderfyniad i ogrwn, gyda chymorth dŵr, haenau gwaelodol llenwadau'r darddell yn dilyn darganfod dau lain gwydr a'n darn cyntaf o aur - hyd o weiren ffiligri o'r math a geir yn aml yn addurno gemwaith Ynysol yn dyddio o'r 7fed-9fed ganrif.
Mark Lodwick
Un o'r darganfyddiadau mawr a wnaed yng Nghloddiad Ffos y Darddell ddydd Llun oedd datgelu claddedigaeth. Cafwyd hyd i'r corff yn annisgwyl yng nghornel dde-orllewinol y cloddiad ffos dan waddodion y domen sbwriel ac yn cyfeirio tua'r dwyrain-gorllewin, sydd efallai'n awgrymu defod gladdu Gristnogol. Mae'n ymddangos y cafodd y bedd ei dorri drwy'r domen sbwriel a'r haenen oddi tani, a'i osod ar yr isbridd naturiol.
Brian
Mae darganfyddiadau eraill yng Nghloddiad Ffos y Darddell yn cynnwys draen i'r de o adeilad y ffwrn, sy'n arwain tua'r de i gyfeiriad y pant ac ynddo waddodion y domen sbwriel. Cafwyd hyd i ddwy ffos ar waelod gwaddodion y domen sbwriel, er bod eu trawstoriad yn dangos eu bod nhw'n torri trwyddynt. Yn ystod diwrnodau olaf y cloddiad rydym yn ceisio darganfod trefn amser y ffosydd o amgylch adeilad y ffwrn yn ogystal â'r dyddodion yn yr adeilad ei hunan, a pherthynas y draen, sydd newydd ei ddarganfod, i'r drefn honno.
Evan
Mae'r tywydd wedi bod yn garedig ac mae'r esgyrn a olchwyd yn sychu'n dda. Ddoe, dechreuon ni ogrwn, gyda chymorth dŵr, y gwaddodion o gyffiniau'r darddell. Ar y diwrnod cyntaf cafwyd hyd i ddarnau o ddau lain gwydr a darn bach o aur. Heddiw, fodd bynnag, ni ddaeth dim gwerth sôn amdano i'r amlwg.







