Bwletin 8
Medi 3






Y newyddion yn gryno
Mae mwy o ddarganfyddiadau o'r darddell a'r domen sbwriel yn dal i lethu'r tîm â gwrthrychau.
Mark Redknap
Mae pob diwrnod yn y darddell yn esgor ar ddarganfyddiadau newydd. Heddiw cloddiwyd nifer o ffosydd agen gennym er mwyn cadarnhau bod yr ymylfeini uchaf, ar yr ochr ogleddol, wedi llithro i mewn i siltiau'r pwll. Gorweddai glan wreiddiol y pwll tua metr y tu ôl iddynt, yn y gornel ogledd-orllewinol. Cafwyd bod siltiau dwrlawn y llecyn hwn yn llawn gweddillion organig, gan gynnwys peth pren a choesynnau planhigion.
Mark Lodwick
Parhau y mae'r gwaith o gloddio a dyfalu diben y gyfres o gwlïau bas y tybiwn iddynt gael eu creu er mwyn dargyfeirio dŵr daear o nodweddion megis y ffwrn. Heddiw cyrhaeddon ni haen waelodol dyddodion y domen sbwriel mewn un man, gan ddarganfod pridd claddedig oddi tani.
Brian
Dechreuwyd cloddio dwy ffos ychwanegol, ar ochr orllewinol prif Gloddiad Ffos y Darddell, er mwyn astudio dyddodion y domen sbwriel, a byddwn yn achwilio'r ffosydd yn ystod y diwrnodau nesaf. Rydym hefyd wedi dechrau paratoi toriad yng nghanol ochr ddeheuol y cloddiad ffos. Fel arall, canolbwyntiwyd y gwaith yng nghyffiniau'r ffwrn er mwyn ceisio datrys patrwm y ffosydd ac i edrych am arwyddion adeiladwaith.
Evan
Mae esgyrn anifeiliaid yn dal i lifo fesul bwcedaid o'r domen sbwriel. A hithau'n ddechrau'r wythnos olaf gallwn ond gobeithio am dywydd sychu da er sicrhau y bydd popeth sydd wedi'i olchi ac sydd eto i'w olchi yn barod i'w roi mewn bagiau erbyn dydd Gwener.







