Bwletin 7
Awst 31





Y newyddion yn gryno
Mae Cloddiad Ffos y Man Poeth wedi'i gwblhau (gweler y llun) ac mae Evan yn boddi dan bentwr o ddarganfyddiadau wrth i'r tîm symud yn eu blaenau i glirio tomen sbwriel yn dyddio o'r canoloesoedd cynnar.
Mark Redknap
Gan bwyll bach rydym yn datgelu cynnwys dyddodion canoloesol cynnar y darddell. Hyd yma cafwyd ynddynt lawer o esgyrn anifeiliaid, rhai darnau bach o haearn (gan gynnwys dau lafn cyllell) a phwysau plwm bach (a ddarganfuwyd heddiw). Rhoddir y silt i gyd mewn bagiau fel y gellir ei ogrwn gyda chymorth dŵr yn y man prosesu darganfyddiadau. Gwaetha'r modd, mae arwyddion clir bod mur deheuol y darddell wedi'i ddifrodi gan doriad mwy diweddar (o bosib gan beiriant cloddio).
Mark Lodwick
Treuliais y ddeuddydd diwethaf yn goruchwylio'r gwaith o symud haenau'r domen sbwriel i gyfeiriad pen deheuol y cloddiad ffos. Crynhodd yr haenau hyn wrth i bobl y canoloesoedd cynnar waredu sbwriel, ac maent, fel arfer, yn cynnwys llawer iawn o esgyrn anifeiliaid sy'n darparu tystiolaeth dda o'r hyn yr oedd trigolion y closdir yn ei fwyta, yn ogystal â chadw Evan a'i dim prosesu yn brysur!
Brian
Wedi dau ddiwrnod heb law roedd y safle'n sych iawn, gan ei gwneud hi'n anodd i weld y nodweddion pridd llai amlwg. O ganlyniad, gofynnais i rai ddoe i helpu Mark Lodwick i gludo ymaith ddefnydd y domen sbwriel o ben deheuol y safle. Yna, ar ddiwedd y dydd, aed ati i frwsio'r safle cyn y glaw disgwyliedig gyda'r nos, ac nid ofer y gwaith oherwydd y bore 'ma roedd y nodweddion i'w gweld yn glir yn dilyn y glaw trwm. Heddiw canolbwyntiwyd ar edrych ar rai o'r nodweddion hyn, gan gynnwys toriadau ychwanegol drwy'r gwliau bas ar ochr orllewinol y safle, archwilio un neu ddau o'r tyllau pyst ger ymyl gogleddol y cloddiad ffos, ac ymgymryd a mwy o waith o amgylch y ffwrn. O ganlyniad, cafwyd hyd i dystiolaeth o ffos ddraenio, yn dyddio o wahanol gyfnodau, yn amgylchynu ochr ogleddol y ffwrn.
Evan
Mae esgyrn anifeiliaid yn llifo i mewn ar gyfer eu prosesu - bwcedeidiau ohonynt yn achos yr hyn a ddaw o ddyddodion y domen sbwriel yng Nghloddiad Ffos y Darddell. Er mai cael a chael yw hi, rydym yn llwyddo i olchi'r cyfan ond ar draul gogrwn, gyda chymorth dŵr, y defnydd mae Mark Redknap yn codi o'r darddell ei hunan.







