Bwletin 6
Awst 29




Y newyddion yn gryno
Mae popeth wedi'i ganolbwyntio ar Gloddiad Ffos y Darddell wrth i nodweddion gael eu cloddio a'u datguddio.
Mark Redknap
Ers y diweddariad diwethaf mae'r gwaith o ddehongli'r archeoleg wedi symud yn ei flaen yn sylweddol. Mae'n amlwg bod y nodweddion yng Nghloddiad Ffos y Darddell ar ffurf naill ai ffosydd neu bydewau/dyllau pyst bach, ac rydym wedi symud ymaith y rhan fwyaf o'r dyddodion diweddar yn y pwll er mwyn datgelu mwy o wal gadarn, a godwyd ar ei ochr ddeheuol yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar. Cafwyd hyd i nifer o wrthrychau bach haearn - a'r mwyaf diddorol yn eu plith yw llafn cyllell fach o ran uchaf yr haen ganoloesol gynnar. Diolch i'r tîm i gyd am sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo'n ardderchog!
Mark Lodwick
Heblaw am y darddell ei hunan, mae gweddill Cloddiad Ffos y Darddell yn dal i ddwyn i'r amlwg nodweddion archeolegol diddorol. Rydym wedi cael hyd i ddarn o balmant cymen sydd wedi sigo i mewn i bridd du gerllaw'r ffwrn, ac fe gafodd John (un o'r cloddwyr) hyd i freuan gyflawn yn llenwad uchaf pydew crwn. Yn ogystal, ym mhen deheuol y cloddiad ffos rydym wedi darganfod haen sy'n hynod debyg i'r dyddodion tomen sbwriel a gloddiwyd gennym ymhellach i'r gorllewin, dair blynedd yn ôl.
Brian
Mae gwaith hofio yn chwarter gogledd-orllewinol Cloddiad Ffos y Darddell yn dal i daflu goleuni ar nodweddion ar ffurf cyfres o ffosydd a gwlïau, y rhan fwyaf ohonynt yn ymddangosiadol fas, sy'n torri ar draws ei gilydd. Rydym wedi cloddio un o'r ffosydd hyn, a oedd yn derfyn cae yn ôl pob tebyg, ac roedd tua 0.5m o ddyfnder.
Evan
Heddiw oedd y diwrnod llawn cyntaf a dreuliwyd yn prosesu'r darganfyddiadau. Bu dau o'r gwirfoddolwyr (Amanda ac Aimee) yn helpu i olchi'r esgyrn anifeiliaid. Hyd yn hyn rydym yn drech na'r gwaith a dim ond darganfyddiadau heddiw sydd ar ôl i'w golchi yfory.







