Bwletin 5
Awst 27






Y newyddion yn gryno
Agorwyd dau gloddiad ffos newydd, y naill ar draws mynedfa'r closdir a'r llall ar draws y man poeth a ddatgelwyd ddoe gan arolwg geoffisegol. Yn y cyfamser, cwblhawyd y gwaith glanhau yng Nghloddiad Ffos y Darddell, ac mae'r cloddio go iawn wedi dechrau.
Mark Redknap
Mae'r darddell yn dechrau ildio ei chyfrinachau! Rydym wedi bod wrthi'n cwblhau'r gwaith o gloddio siltiau gwaelodol yn hanner gogleddol y pwll. Yma mae lensys o raean tywodlyd a silt llwyd wedi ildio nifer fawr o esgyrn anifeiliaid, rhai ac arnynt olion cigyddio a'u lliw gwreiddiol. Mae'n bosibl mai clawr dros darddiad y darddell, sy'n dal i lifo'n ddi-baid o doriad y cloddiad, yw un maen mawr llorweddol.
Mae'r mynediad a'r ffosydd mewnol ac allanol yn ymddangos bellach yn y cloddiad ffos a leolwyd gennym i astudio'r nodweddion hyn (gweler 'Cloddiad Ffos y Fynedfa' yn adran 'Y Safle' ar y wefan hon). Yn un o'n cloddiadau ffos newydd ('Cloddiad Ffos y Man Poeth') credir bod pydew mawr yn dyddio o'r 10fed ganrif (mae wedi ildio darnau o hoelen haearn a darn o ingot arian) ond erys ei ddiben yn ansicr.
Mark Lodwick
Ddoe llwyddais i wneud tipyn o waith cloddio yn y cloddiad ffos ger y darddell, gan fod rhai darganfyddiadau archeolegol trawiadol yn dechrau ymddangos, gan gynnwys rhannau posibl o furiau a cherrig llorio gerllaw'r ffwrn a ddarganfuwyd gennym y llynedd. Heddiw, ymunodd Dave (tirfesurydd y safle) â'r tîm, felly treuliais lawer o'm hamser yn trosglwyddo'r cyfrifoldebau tirfesuro iddo.
Brian
Ddoe cludwyd ymaith, mor gyflym â phosib, y rhan fwyaf o'r uwchbridd a oedd yn weddill allan o Gloddiad Ffos y Darddell. Heddiw, wedi diwrnod o law trwm, roedd y safle'n ddelfrydol ar gyfer hofio, felly fe gychwynnais yn y gornel ogledd-orllewinol gan grafu modfedd neu ddwy oddi ar yr wyneb er mwyn gwneud rhai o'r nodweddion rydym wedi'u darganfod yn fwy eglur. Yn ystod y prynhawn, dechreuodd tri o'r gwirfoddolwyr - Vince, Francis a John - gloddio tair o'r nodweddion mwyaf amlwg a chlir.
Evan
Mae mwy a mwy o ddarganfyddiadau yn dod i'r amlwg ac felly mae'r gwaith o'u prosesu yn hawlio hanner o'm hamser. Treuliwyd y gweddill o'm hamser yn helpu i agor Cloddiad Ffos y Fynedfa.







