Bwletin 4
Awst 24




Y newyddion yn gryno
Pwmpio dŵr o'r cloddiadau ffos, dyddio archeomagnetig, a chwilio am anomaleddau geoffisegol. Mae'r oll yn rhan o waith y tîm ar Ynys Môn.
Mark Redknap
Rydym wedi dechrau gweithio o ddifri yng nghloddiad ffos y darddell ac, wedi i ni gael gafael ar bwmp dŵr, roedd modd i ni wacáu'r dŵr o'r darddell ei hunan y bore 'ma a dechrau glanhau'r hyn a ddaeth i'r amlwg y llynedd. Rydym hefyd wedi agor cloddiad ffos bach dros anomaledd magnetig wedi'i leoli y tu allan i'r closdir, ar ochr ddwyreiniol y safle (gweler 'Cloddiad ffos y man poeth' yn adran y safle ar y wefan hon), er mwyn darganfod ei oedran a'i ddiben. Yn ogystal, rydym wedi samplu'r ffwrn ar gyfer dyddio archeomagnetig (techneg sy'n defnyddio newidiadau i faes magnetig y Ddaear gyda threiglad amser i ddyddio gronynnau o glai llosg). Bellach, llwyddwyd i adnabod nifer o leininau clai, y naill yn dilyn y llall (atgyweiriadau i adeiladwaith y ffwrn); mae'n amlwg roedd pobi bara'n bwysig!
Mark Lodwick
Roeddwn yn ôl ar y safle heddiw ar ôl treulio peth amser yn tirfesuro (gweler y diweddariad blaenorol), ac ar ôl torchi llewys wnes dipyn o waith caled. Cefais gyfle, hefyd, i helpu Dr Peter Rauxloh (Gwasanaethau Arbennig Amgueddfa Llundain) i gofnodi ei samplau o'r ffwrn ar gyfer dyddio archeomagnetig.
Brian
Erbyn diwedd y pumed diwrnod roedd y rhan fwyaf o hanner gogleddol cloddiad ffos y darddell wedi'i hofi'n lân a deuai mwy o nodweddion i'r golwg. Mae'r uwchbridd wedi'i gludo ymaith o hanner deheuol y cloddiad ffos a chwblhawyd peth o'r gwaith glanhau. Ar ochr orllewinol y prif gloddiad ffos ailddarganfuwyd cloddiad ffos agen, a gloddiwyd yn 1997, ac ar hyn o bryd mae'r llenwad a roddwyd yn ôl ynddo yn cael ei gludo ymaith. Mae pawb wedi bod yn gweithio'n galed iawn, iawn.
Evan
Dydw i ddim wedi bod ar gyfyl sied y darganfyddiadau yn ystod y ddeuddydd diwethaf. Fodd bynnag, mae darganfyddiadau yn dechrau pentyrru (o ganlyniad, yn bennaf, i'r gwaith datgelu metel mewn caeau eraill), felly bydd yn rhaid imi dreulio rhywfaint o amser yno yfory.







