Bwletin 3
Awst 22



Y newyddion yn gryno
Ymgymerwyd â pheth gwaith geoffisegol o amgylch y prif safle, ar ran y tîm... yn y cyfamser mae'r gwaith o lanhau'r cloddiadau ffos yn parhau.
Mark Redknap
Rydym wedi dechrau lleoli ochr ddeheuol y pwll canoloesol cynnar yn un o'n cloddiadau ffos, ac mae nodweddion yn dechrau ymddangos yng nghloddiad ffos Brian hefyd. Mae Mike Hamilton o Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd, wedi bod yn ymgymryd ag arolygon geoffisegol o glwstwr cytiau caeedig posib (yn dyddio o'r cyfnod Brythonig-Rufeinig?), ac ar lecyn i'r gogledd o'r closdir canoloesol cynnar. Diolch i'w waith mae gennym, bellach, nifer o anomaleddau diddorol i'w harchwilio, a byddwn yn bwrw golwg ar y rhain yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mark Lodwick
Rydw i wedi cael fy esgymuno o'r safle am y diwrnodau nesaf, er mwyn tirfesuro, a pharatoi cynllun manwl wedi'i gyfuchlinio, o'r clwstwr cytiau caeedig. Dylai hyn ein caniatáu ni i archwilio'r llwyfannau cytiau a'r cloddiau sydd mor anodd i'w gweld drwy'r isdyfiant.
Brian
Rydym wedi llwyddo i glirio tua hanner fy nghloddiad ffos i, a hofiwyd tua chwarter yn ddigon da i ddatguddio nifer o nodweddion yn y chwarter gogledd-ddwyreiniol - pyllau, ffosydd a gwlïau yn croesi ei gilydd, yn ôl pob tebyg, ond mae eu perthynas a'u hunion faint yn aneglur ar hyn o bryd. Mae llenwadau'r rhan fwyaf o'r nodweddion hyn yn lled ddu ac yn cynnwys llawer o ddefnydd llosg.
Evan
Mae Archie (un o'r datgelyddwyr metel a ddarganfu'r safle) wedi bod yn ailarchwilio'r cae lle darganfuwyd darnau arian Carolingaidd yn dyddio o'r nawfed ganrif rai blynyddoedd yn ôl, ac yno cafwyd hyd i geiniog arian Siarl Eofn. Fel arall, ychydig yw'r darganfyddiadau sydd wedi dod i'r fei, gan ein bod ni'n dal i symud yr uwchbridd. Mae hyn yn golygu fy mod i wedi treulio'r rhan fwyaf o'm hamser ar y safle.







