Bwletin 2
Awst 20



Y newyddion yn gryno
Mae'r tîm wedi cyrraedd y safle ac maen nhw eisoes wedi dechrau agor cloddiadau ffos (gweler y cynllun yn adran 'Y Safle' ar y wefan hon). Mae pethau o ddiddordeb archeolegol eisoes wedi dechrau ymddangos.
Mark Redknap
Mae'n gynnar yn y prynhawn ar ein diwrnod cyntaf o gloddio, ac mae nodweddion eisoes wedi dod i'r golwg yn y prif gloddiad ffos (yn union i'r gorllewin o'r darddell) - cafwyd hyd i'r ffwrn a ddarganfuwyd y llynedd ac mae clytiau o bridd tywyll a cherrig gerllaw yn dynodi gweithgaredd canoloesol cynnar.
Mark Lodwick
Dechreuad gwlyb i dymor arall! Treuliwyd y diwrnod a hanner diwethaf yn ymbalfalu yn yr isdyfiant mewn ymgais i ddod o hyd i orsafoedd tirfesuro'r blynyddoedd blaenorol, ac mewn ymdrech i sefydlu grid y safle dros wyneb y cae.
Brian
Dyma ddechrau glanhau'r safle, unioni ymyl gogleddol y safle a glanhau'r tir o amgylch y darddell. Canolbwyntir ar lanhau'r safle gyda chymorth hof cyn gynted ag y bo modd, tra bod y pridd yn llaith (heb fod yn rhy wlyb nac yn rhy sych). Rydym wedi dechrau gwneud hyn o amgylch y ffwrn.
Evan
Gan mai megis dechrau yw'r gwaith cloddio, does dim galw am brosesu darganfyddiadau, felly nawr bod sied y darganfyddiadau ar ei thraed mae gen i gyfle i dreulio ychydig ddiwrnodau'n cloddio ar y safle.







