Bwletin 10
HANES YR YMGYRCH: BWLETIN 10 - 1/9/2000





Y NEWYDDION YN GRYNO
Mae'r diwedd o fewn golwg ond y darganfyddiadau yn dal i ddod i'r golwg yn ffos Evan. Yn ffos Mark mae'r claddiad yn cael ei ddatgelu a phawb yn troi at gau pen y mwdwl ar y gwaith.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Erbyn hyn, rydyn ni'n siwr nad adeilad a nodwyd i'r gogledd o'r ffynnon (darllenwch y bwletinau diwethaf) ond llwybr llydan, cain. Mae hyn yn dweud cyfrolau am drefn fewnol y lloc yn y 9fed/10fed ganrif. Mae'r gwneuthuriad yn dda, ac mae'n fwy sylweddol na'r rhan fwyaf o 'lwybrau' ar safleoedd cyfoes. Hefyd, mae'n rhoi rhyw ganolbwynt i'r lloc, gan ddangos cysylltiad rhwng yr adeiladau a gafodd eu darganfod mewn tymhorau blaenorol a'r ffynnon.
Ddoe fe ddaeth rhagor o dystiolaeth am ddyddiad y dyddodion isel yn y ffynnon (y canol oesoedd cynnar) - fe ddaethom o hyd i ddarn o fetel â phatrwm wedi'i stampio arno, tebyg i gynlluniau a geir ar freichdlysau Gwyddelig-Nordig.
Fe ddaethpwyd o hyd i bopty yn rhan Evan hefyd - pe bai hwn yn bopty ar gyfer pobi bara, byddai'n awgrymu becws yn pobi ar gyfer cryn nifer o bobl."
DR MARK REDKNAP
EVAN CHAPMAN - AROLYGU FFOS Y FFYNNON
"Nid adeilad mohono, erbyn gweld, ond llwybr fflacs gydag ymylfeini. Ar y llaw arall, mae'r aelwyd, yn yr estyniad ar ran orllewinol y ffos wreiddiol, wedi datblygu'n bopty arbennig iawn, popty bara o bosib.
Yn rhan ogleddol y ffos rydym wedi gwneud toriadau ar draws rhai darnau o'r cobls a'r rwbel. Wrth wneud hyn, dyma sylweddoli eu bod yn gorwedd mewn pantiau naturiol, yn hytrach na bod yn rhannau uchaf rhyw nodweddion, yn ôl y gobaith. Ddim mor ddiddorol, ond haws eu trin.
Mae'r gwaith yn parhau hefyd yng ngwaelod pant y ffynnon. Erbyn hyn mae popeth hanner dan ddwˆr gan fod y ffynnon yn byrlymu drwy'r amser."
EVAN CHAPMAN
MARK LODWICK - AROLYGU FFOS Y LLOC
"Mae'n dechrau teimlo fel dechrau'r diwedd. Cyn i bawb gael mynd adref, mae'n rhaid cofnodi'r holl archaeoleg a gloddiwyd hyn yma. Rhoddwyd blaenoriaeth dros y deuddydd diwethaf i gloddio a glanhau, yn barod i dynnu lluniau a darlunio.
Fe fuom yn cloddio hynny o'r sgerbwd sydd wedi'i lanhau, yn barod i Dave gael tynnu ei lun a gwneud cynllun cyn ei godi. Yn anffodus, doedd dim nwyddau claddu o gwbl yn y bedd.
Rydyn ni wedi cwblhau cynllun wal y lloc erbyn hyn, felly gallwn gloddio toriad ar ei thraws yfory, yn y gobaith y deuwn ni o hyd i sylfaen y wal - wyneb y tir y cafodd ei chodi arno."
MARK LODWICK
HEATHER JACKSON - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Fe fu'r deuddydd diwethaf yn lloerig o brysur. Rwy'n ceisio gwneud yn siwr bod yr holl ddarganfyddiadau yn cael eu cofnodi, a'r un pryd rwy'n arnofio'r samplau. Mae haenau isaf pant y ffynnon yn cael eu cloddio ar hyn o bryd, gan gynhyrchu nifer fawr o samplau i'w harnofio. Hefyd, rhaid cadw ar ben y dasg o ddarlunio a chofnodi gwaith metel ac ati o ddydd i ddydd. Heno, fe fues i ar y safle tan 8.00 o'r gloch yr hwyr, ac fe fu Roger y ffermwr yn garedig dros ben yn fy ngwahodd i gael swper yn ei gartref.
Fe ddaeth Dr Nancy Edwards, o Brifysgol Cymru, Bangor, draw gyda rhai o'i myfyrwyr heddiw. Roedd hi'n frwdfrydig dros ben pan welodd hi'r darganfyddiadau canoloesol cynnar, yn enwedig rhan o'r tlws."
HEATHER JACKSON







