Bwletin 9
HANES YR YMGYRCH: BWLETIN 9 - 30/8/2000






Y NEWYDDION YN GRYNO
Daw Evan o hyd i lwybr sy'n arwain i gyfeiriad y ffynnon ac mae Mark Lodwick yn pendroni ynghylch dyddiad y crymgladdiad.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Yn ystod y dyddiau diwethaf fe gymerwyd camau breision wrth ddod i ddeall ffos y ffynnon lle mae Evan yn cloddio. Er gwaethaf peth tystiolaeth bod clirio a dympio wedi digwydd yn ddiweddar, rydyn ni wedi darganfod dyddodiad llwyd tywyll dan gerrig a thywod modern. Efallai ei fod yn haen o fewn pwll canoloesol cynnar. Fe ddaethpwyd o hyd i esgyrn anifeiliaid, cregyn a darn arian Edmwnd (939-46) yn yr haen yma. Wrth i mi ysgrifennu hyn o lith, rydym yn pwmpio dŵ o'r rhan sydd wedi'i chloddio - mae'n dal i fod yn bwll effeithiol ar ôl cynifer o flynyddoedd! Roedd y cerrig palmant eraill tua'r gogledd yn arfer bod y rhan o lwybr wedi'i adeiladau'n ofalus i lawr at y ffynnon- llwybr pwysig o fewn y lloc yn y 9fed/10fed ganrif. Erbyn hyn rydym yn dechrau ailfeddwl ynghylch ein dehongliad o gerrig tebyg yn rhan ogleddol y ffos. Yn wreiddiol roedden ni'n meddwl mai rhan o adeilad oedden nhw, ond mae'n bosib mai rhan o'r un llwybr yn parhau sydd yma."
DR MARK REDKNAP
EVAN CHAPMAN - AROLYGU FFOS Y FFYNNON
"Roedd dydd Gwener yn anodd gan fod y safle mor sych. Felly pan ddaeth y glaw trwm gyda'r nos, o safbwynt archaeolegol fe gafodd groeso mawr - er nad oedd lawn mor boblogaidd gyda'r bobl sy'n gwersylla.
Dyma'r wythnos olaf, ac mae angen i ni ystyried o ddifrif beth allwn ni ei gyflawni yn yr amser sy'n weddill. Bydd angen canolbwyntio ar ran ogleddol y ffos lle mae ardaloedd helaeth o gobls a fflacs wedi dod i'r amlwg erbyn hyn. Mae'r gwaith yn parhau hefyd yng ngwaelod y ffynnon, lle mae'n ymddangos bod nifer o haenau wedi goroesi."
EVAN CHAPMAN
MARK LODWICK - AROLYGU FFOS Y LLOC
"Yr wythnos olaf o'n blaenau ac fe fu'r tîm yn brysur yn cloddio'r gwahanol nodweddion oddi mewn i wal y lloc, er mwyn ceisio gweld ym mha drefn y cawson nhw eu gosod.
Bu'r gwaith cloddio yn ffos y bedd yn araf oherwydd bod yr esgyrn mor frau. Mae cnofilod wedi gwneud difrod yn y bedd hefyd. Yn anffodus, ddeues i ddim o hyd i briddlestri bicer, ond mae gobaith o hyd y bydd yno nwyddau claddu i gadarnhau dyddiad Oes Efydd Gynnar. Os nad oes arteffactau y gellir eu dyddio gyda'r claddiad, fe allwn ni fynd am ddyddiad radiocarbon gan ddefnyddio un o esgyrn y goes uchaf, sydd mewn cyflwr da.
Erbyn diwedd dydd Sul, fe ddaethom o hyd i waelod ein hail doraid trwy ffos y lloc. Yn ddiddorol iawn, mae'r proffil yn wahanol i'r toriad arall sydd gwpl o fetrau i ffwrdd."
MARK LODWICK
HEATHER JACKSON - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Mae'r gwaith prosesu darganfyddiadau yn mynd yn dda. Rwy'n llwyddo i ymdopi â chofnodi'r gwaith metel, ac ati, a gobeithio fy mod yn dysgu'r myfyrwyr sut i adnabod y gwahanol ddeunyddiau sy'n dod i'r fei ar y safle. Y darganfyddiadau mwyaf cyffredin yma yw esgyrn anifeiliaid a gwrthrychau haearn, ond rydyn ni wedi dod ar draws crochenwaith, gwydr, fflintiau wedi'u trin, gwrthrychau plwm, arian ac aloi copr. Mae'n rhoi pleser mawr i mi bod y myfyrwyr yn gwella eu sgiliau adnabod ar ôl treulio diwrnod yn y sied ddarganfyddiadau.
Fy mhrif dasg yr wythnos yma yw'r arnofio. Mae'r pridd yn gleiog iawn, yn enwedig llenwad y bedd yn ffos Mark, ac mae hyn yn golygu bod y gwaith arnofio a hidlo yn boenus o araf deg. Fodd bynnag, mae rhai o'r nodweddion cynhanesyddol wedi cynhyrchu llawer iawn o gnau cyll llosg, gan wneud y gwaith yn werth chweil o'm safbwynt i."
HEATHER JACKSON







