Bwletin 8
HANES YR YMGYRCH: BWLETIN 8 - 29/8/2000





Y NEWYDDION YN GRYNO
Mae'r sylw yn symud o'r canol oesoedd cynnar i'r cyfnod cynhanesyddol wrth i ni ddarganfod claddiad yn ffos Mark Lodwick. Mae'n bosib bod y claddiad yn dyddio i Oes yr Efydd. Yn ffos Evan fe ddeuwn i wybod am darddle'r ffynnon.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Wrth gynllunio'r gwaith cloddio ar gyfer yr haf yma, roeddwn yn gobeithio y byddem yn gallu dysgu mwy am weithgarwch yn y cyfnod cynhanesyddol o amgylch y ffynnon. Yn hyn o beth, mae ffos y lloc (ffos Mark) wedi gwireddu ein gobeithion mwyaf uchelgeisiol - yn ystod y dyddiau diwethaf fe ddaethom o hyd i nodweddion Oes y Cerrig Ddiweddar (Neolithig), sef crochenwaith a cherrig wedi'u defnyddio - ond erbyn hyn mae gennym grymgladdiad. Fe fydd yn wych mynd ati'n wyddonol yn y dyfodol i edrych ar gladdedigaethau cyfoes yng Ngogledd Cymru a'u cymharu â'r sgerbydau canoloesol cynnar o'r safle!
Mae cyfrinachau'r ffynnon yn dechrau dod yn amlwg hefyd. Mae yna arwyddion bod yr hanner dwyreiniol wedi cael ei glirio, neu ei garthu. Hefyd, o feddwl am y darn o'r tlws a ddaeth i'r golwg yn rhan ddeheuol y ffynnon (yn y bwletin diwethaf), rwy'n amau bod hwnnw'n perthyn i gyd-destun canoloesol cynnar, ond ei fod wedi cael ei symud adeg carthu'r ffynnon. Wedi dweud hynny, mae trefn rhai o'r cerrig mwy o fewn y ffynnon yn awgrymu bod rhywfaint o dystiolaeth ar gyfer pwll cynnar yn dal i'w weld o fewn ardal y cloddio."
DR MARK REDKNAP
EVAN CHAPMAN - AROLYGU FFOS Y FFYNNON
"O'r diwedd rwy'n teimlo ein bod yn dechrau deall hyd a lled yr archaeoleg yn y ffos. Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar yr estyniad tua'r gogledd (darllenwch y bwletin cynt). Erbyn hyn mae modd gweld tair ochr yr adeilad - yn fras o leiaf. Hefyd, mae nifer o nodweddion rwbel eraill wedi dechrau ymddangos.
I lawr y llethr at bant y ffynnon rydym wedi torri ffos rych er mwyn ceisio deall ei siâp a'r dyddodion oddi tani. Gwelwyd bod haen o glai solid yma, ac oddi tani mae haen drwchus o rwbel calchfaen yn union ar ben y creigwely. Rydym yn amau, felly, bod llawer o'r pant wedi'i lanhau yn gymharol ddiweddar, fel bod unrhyw hen ddyddodion oedd yno wedi mynd.
Heddiw, am y tro cyntaf, fe ddefnyddiodd Mark Redknap y pwmp er mwyn clirio'r dyddodion oedd yn nhrap y gwaddod. Modern oedd y dyddodion i raddau helaeth, ond fe wnaethom ni ddarganfod bod y ffynnon yn dal i lifo rhyw ychydig."
EVAN CHAPMAN
MARK LODWICK - AROLYGU FFOS Y LLOC
"Y prif newyddion yw ein bod wedi darganfod claddiad yn fy ffos i heddiw. Syndod mawr!
Fore Iau fe fu Emma yn edrych ar un o'r nodweddion y tu allan i wal y lloc, ac fe ddaeth o hyd i esgyrn coes crymgladdiad. Mae'r sgerbwd mewn pydew neu gistfaen mawr gyda chwpl o gerrig o gwmpas yr ymyl. Mae'r bedd yn wynebu gogledd-de, ac roedd dwy garreg uwch ei ben. Dydym ni ddim wedi dod o hyd i unrhyw arteffactau yn y bedd hyd yma, ond mae'r holl nodweddion yn awgrymu dyddiad Oes y Cerrig Ddiweddar neu Oes Efydd Gynnar. Rwy'n gobeithio y byddwn yn dod o hyd i briddlestri bicer ger y traed fory er mwyn cadarnhau dyddiad Oes Efydd Gynnar.
Ar nodyn trist bu'n rhaid ffarwelio â Brian heddiw. Brian sydd wedi gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith goruchwylio yn y ffos yma dros y pythefnos diwethaf, ond rydym yn dymuno'n dda iddo gyda'i waith cloddio nesaf yn Gibraltar."
MARK LODWICK
HEATHER JACKSON - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Bu'r tywydd yn gynnes a heulog dros y dyddiau diwethaf, ac mae hynny'n berffaith ar gyfer sychu darganfyddiadau. Ond rhaid i mi gadw golwg ar yr asgwrn os bydd yr haul yn boeth, neu fe fydd yn cracio wrth sychu'n rhy gyflym.
Mae rhai o'r nodweddion yn ffos Mark wedi cynhyrchu eithaf tipyn o grochenwaith cynhanesyddol, wedi'i addurno ag ôl ewin bawd neu batrymau wedi'u gwneud trwy wthio rhaff i'r clai gwlyb. Mae'r crochenwaith talpiog yma'n rhy feddal a brau i gael ei olchi. Felly bydd yn rhaid i ni ddisgwyl nes mynd yn ôl i'r amgueddfa i weld rhagor o addurniadau a gweld a yw'n perthyn i Oes yr Efydd neu gyfnod cynharach.
Fe ddaeth un neu ddau o ymwelwyr draw i'r safle - pobl â diddordeb arbennig yn y darganfyddiadau sy'n gysylltiedig â'u meysydd astudio eu hunain. Fe fu Peter Crew, archaeolegydd Parc Cenedlaethol Eryri, yn cael golwg ar ein sorod haearn a bu Frances Lynch, o Brifysgol Cymru Bangor, yn cael blas ar ein crochenwaith cynhanesyddol."
HEATHER JACKSON







