Bwletin 7
HANES YR YMGYRCH: BWLETIN 7 - 25/8/2000






Y NEWYDDION YN GRYNO
Mae'r haul yn dal i dywynnu wrth i ffos Evan gael ei hestyn i chwilio am fwy o archaeoleg, ac mae Mark yn dal i bendroni am y nodweddion yn ei ffos.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Bob dydd mae ein syniadau am y safle yn dod yn fwy eglur. Yn ffos Evan, mae'r pridd tywyll o fewn yr adeilad posibl ger y ffynnon wedi datgelu ffasnydd gwisg aloi copor, ar ffurf a geid yn y ddegfed ganrif. O Iwerddon y daeth y ffurf hon yn wreiddiol, ond buan y dechreuodd ymsefydlwyr Llychlynaidd ei defnyddio. Mae'r ffurf yn gyffredin iawn yn Nulyn yn Oes y Llychlynwyr. Rydyn ni wedi llwyddo i ddiffinio ymyl naturiol y ffynnon mewn rhai mannau, gan roi cyfle i sefydlu ei ffurf ganoloesol gynnar a ffurfiau cynharach.
Yn ffos Mark, fe gafodd ffos y lloc ei gwagio. Fe ddaethon ni ar draws dilyniant o lenwadau sy'n debyg iawn i'r hyn a gofnodwyd yn y ffos y llynedd. Rydym wedi cymryd samplau radiocarbon i geisio gweld y dyddiadau."
DR MARK REDKNAP
EVAN CHAPMAN - AROLYGU FFOS Y FFYNNON
"Am y deuddydd diwethaf, fe fuom yn canolbwyntio ar estyn y ffos tua'r gogledd er mwyn darganfod mwy am adeilad posibl y daethom ar ei draws ychydig ddyddiau'n ôl.
Rydym hefyd wedi torri bocs allan o ymyl gorllewinol y ffos i astudio darn mwy o glai llosg a cherrig. Efallai mai aelwyd sydd yma, ond does dim cysylltiad amlwg ag adeilad - tybed oedd hi'n arfer cael ei defnyddio i weithio metel?
Yn y cyfamser, fe fu Dave (arolygwr ein safle) yn brysur yn tynnu llun cynllun y cobls ym mhant y ffynnon. Cyn bo hir, felly, fe fyddwn yn gallu eu codi a gweld beth sydd oddi tanyn nhw. "
EVAN CHAPMAN
MARK LODWICK - AROLYGU FFOS Y LLOC
"Hanner ffordd drwy'r gwaith cloddio ac mae'r rhan fwyaf o'r archaeoleg wedi'i datgelu yn fy ffos i. Bu'r tîm wrthi fel lladd nadroedd yn cloddio llawer o'r nodweddion, ond hyd yma wyddom ni ddim rhyw lawer am eu pwrpas gwreiddiol, er bod rhai yn gynhanesyddol. Rydym yn dechrau amau bod wyneb tir cynhanesyddol wedi goroesi yn y pantiau yn yr isbridd naturiol, lle nad yw'r aradr wedi llwyddo i'w cyrraedd.
Ddoe, fe darodd John a Nigel waelod ffos y lloc, ar y creigwely ei hun, felly roedd hi'n hawdd iawn ei adnabod."
MARK LODWICK
HEATHER JACKSON - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Mae'r dasg o brosesu darganfyddiadau yn parhau ac rwy'n llwyddo i gael trefn ar ran fwyaf y darganfyddiadau. Fe gymerodd beth amser i mi sefydlu'r system arnofio ac rydw i ar ei hôl hi braidd gyda'r gwaith darlunio a chofnodi'r gwaith metel.
Mae'r system arnofio yn defnyddio drwm olew gyda phig. Rydym yn tywallt y sampl gwaddod i hidl yn y drwm a phwmpio d#373;r o'r gwaelod. Pan fydd y sampl dan wyneb y d#373;, bydd y mater organig (pethau fel golosg a deunydd planhigol) yn arnofio i'r wyneb a thywallt allan i'r drwm trwy'r pig, lle mae'n cael ei ddal mewn hidl fân. Fe fydd y stwns organig tywyll yn cael ei anfon i'r amgueddfa a'i astudio'n ofalus. Fe fyddwn hefyd yn cael golwg ar yr hyn sy'n weddill yn yr hidl gan chwilio am ddarnau bach o fetel neu grochenwaith.
Ar ôl trychineb neu ddau (bu bron i mi â boddi'r sied ddarganfyddiadau!) roedd popeth i'w weld yn mynd yn eithaf da."
HEATHER JACKSON







