Bwletin 6
HANES YR YMGYRCH: BWLETIN 6 - 23/8/2000






Y NEWYDDION YN GRYNO
Mae'r waliau o gwmpas y ffynnon yn dechrau siapio yn ffos Evan. Yn y cyfamser yn ffos Mark, mae'r gwaith yn dechrau ar gloddio'r ffosydd ac archwilio'r nodweddion cynhanesyddol yn y ffos.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Ar hyn o bryd mae'r tîm yn ymchwilio i nifer o nodweddion o amgylch y ffynnon. Rydym wedi gweld tystiolaeth ar gyfer agorydd (chamber) y ffynnon - wedi'i fondio â morter calch - a'r tu ôl i'r agorydd mae rwbel ôl-lenwi a fyddai wedi gwastatáu'r tir o'i amgylch. Mae yna rywfaint o dystiolaeth bod pwll y tu hwnt i'r agorydd, ac o amgylch ei ymyl rydym yn dod o hyd i rannau clai a rwbel llai - o bosib yn awgrymu ymyl pwll o gyfnod y Llychlynwyr!
Yn ffos Mark, mae amrywiaeth diddorol tu hwnt o nodweddion yn dod i'r amlwg yn ffos y lloc. Mae rhai o'r rhain yn haws eu diffinio nag eraill. Mae'r dystiolaeth gynhanesyddol yn bwysig oherwydd ei bod yn dangos bod gweithgarwch wedi bod i'r dwyrain o'r ffynnon hefyd - yn 1995 fe gofnodwyd nifer fawr o nodweddion cynhanesyddol i'r gogledd o'r fan hyn. "
DR MARK REDKNAP
EVAN CHAPMAN - AROLYGU FFOS Y FFYNNON
"Fe fues yn treulio deuddydd heulog poeth yn penderfynu beth oedd yn wal a beth oedd yn rwbel, a darganfod hyd a lled y cobls ym mhant y ffynnon ac o'i hamgylch. Rydym yn credu erbyn hyn bod wal gul o gwmpas tair ochr pen y ffynnon, er mwyn cynnal y tir o'i hamgylch. Ond mae rhan ogleddol y wal wedi'i chwalu bron yn llwyr.
Hefyd, rydym wedi tynnu llawer iawn o ddyddodion sy'n debyg i fawn o ochr ddeheuol y ffos - yn anffodus, mae hwn yn edrych yn gymharol fodern. Oddi tano mae haen debyg, ond tywyllach, ac mae'n bosibl bod mwy o gobls oddi tani.
Erbyn diwedd bnawn Gwener, fe benderfynodd Mark Redknap chwilio'r ardal yn union o flaen y wal ym mhen y ffynnon. Yn ôl y disgwyl, fe ddaethpwyd o hyd i focs suddedig wedi'i leinio â cherrig. Fe fyddai hyn wedi dal gwaddod wrth i dd?r y ffynnon lifo i'r pant.
Rydym yn dal i ddisgwyl i'r ffos gael ei hestyn! "
EVAN CHAPMAN
MARK LODWICK - AROLYGU FFOS Y LLOC
"Mae'r gwaith wedi parhau'n araf deg dros y dyddiau diwethaf. Oherwydd bod ffos Evan mor brysur, ychydig fu'n gweithio yn ein ffos ni, ond fe fu'r tîm yn brysur yn cloddio rhai o'r nodweddion o amgylch wal y lloc.
Fe fuom yn dilyn y ffos fechan y tu allan i'r wal er mwyn gweld ei gwir gynllun, ond hyd yma wyddom ni ddim beth yw ei swyddogaeth. Rydyn ni'n cloddio ffos y lloc hefyd. O'r hyn rwy'n ei gofio am y ffos ar ochr arall y lloc y llynedd, mae hon hefyd yn ddigon tebyg, heblaw am y sgerbydau - hyd yn hyn o leiaf!
Oddi mewn i'r lloc fe fu Brian yn gweithio'n galed yn cloddio trwy bridd du, tebyg i'r pridd yn ffos Evan, sydd ar ben yr isbridd. Oddi tano mae nifer o nodweddion a chysylltiad cymhleth rhyngddynt â'i gilydd. Tipyn o gur pen fydd ceisio cael trefn ar y rhain!
Datblygiad cyffrous o'm safbwynt i fu cloddio'r nodwedd oedd o dan y darn crochenwaith cynhanesyddol y soniais amdano yn y bwletin diwethaf. Oddi tano roedd pydew yn llawn darnau cynhanesyddol, yn eu plith grochenwaith, fflintiau, plisgyn cnau cyll ac esgyrn wedi llosgi. Hefyd roedd carreg fechan â thwll bron drwyddi - rhyw fath o bwysyn mae'n debyg."
MARK LODWICK
HEATHER JACKSON - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Mae'r gwaith prosesu wedi dechrau o ddifrif, felly fe fues i'n treulio'r rhan fwyaf o f'amser yn y fferm, yn sied y darganfyddiadau. Rhaid golchi pob darganfyddiad, heblaw'r rhai metel. Yn ffodus iawn, mae gen i gwpl o fyfyrwyr i roi help llaw i mi. Maen nhw'n golchi, tra rydw innau'n pacio, labelu a gwneud y gwaith papur. Fe fydd darganfyddiadau o wahanol gyd-destunau bob amser yn cael eu cadw ar wahân a'u rhannu yn ôl eu deunydd. Yn gyntaf fe fyddwn yn eu pacio mewn bagiau plastig tyllog, wedi'u labelu, ac yna mewn bocsys, weithiau gyda phapur sidan sy'n rhydd rhag asid. Hefyd, gyda phob darganfyddiad metel (fel y tlws) ac arteffactau eraill o ddiddordeb (fel y crochenwaith) mae angen tynnu llun ohonynt a'u mesur - felly does dim prinder pethau i'w gwneud!"
HEATHER JACKSON







