Bwletin 5
HANES YR YMGYRCH: BWLETIN 5 - 21/8/2000




Y NEWYDDION YN GRYNO
Wrth i'r gwaith cloddio barhau, mae Mark Redknap yn cynnig syniadau am adeiladau o'r Canol Oesoedd cynnar a thai crwn Oes yr Efydd. Mae'r tîm yn canolbwyntio ar gloddio'r nodweddion yn eu rhannau eu hunain.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Dyma hi bron yn ddiwedd ein hwythnos gyntaf, a bellach rydym yn gallu gweld yr olion archaeolegol yn y ddwy ffos. Un datblygiad arwyddocaol oedd darganfod cornel adeilad canoloesol cynnar posibl, ar ymyl ardal y ffynnon (darllenwch gyfraniad Evan). Rwy'n credu y bydd angen i ni estyn y ffos yma yn ystod y dyddiau nesaf, er mwyn cadarnhau'r dehongliad yma. Mae hynny sydd i'w weld ar hyn o bryd yn awgrymu ei fod yn debyg i adeilad o'r 9fed/10fed ganrif a ddaeth i'r golwg ar y safle ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd llawr suddedig yn hwnnw, a fflacs calchfaen y tu allan i un o'r waliau.
Mae yna ddirgelion ynghylch ffos y lloc hefyd : dau dwll cromlinog - y dystiolaeth gyntaf fod yma dai crwn?; Os hynny, ydyn nhw'n dyddio'n ôl i Oes yr Efydd, ynteu a ydyn nhw'n fwy diweddar? Efallai y gallwn gynnig ateb yr wythnos nesaf!"
DR MARK REDKNAP
EVAN CHAPMAN - AROLYGU FFOS Y FFYNNON
"Mae tywydd sych dros y deuddydd diwethaf wedi sychu ychydig ar yr ardal o gwmpas pant y ffynnon, a heddiw fe ddechreuon ni dynnu gweddillion haenau'r wyneb yno. Oddi tano fe ddaethom o hyd i linell grom o flociau calchfaen. Mae'n bosibl fod cysylltiad rhyngddynt â llinell debyg ar ochr gyferbyn ardal y ffynnon. Mae'n bosibl, ar un cyfnod, bod wal yn amgáu'r ffynnon o fewn pwll crwn.
Mae rhes arall o gerrig ger ymyl gogleddol y ffos bellach yn edrych yn debyg i gornel adeilad. Felly mae'r ffos yn barod i gael ei hestyn yn y fan hyn, cyn gynted ag y bydd gan Roger gyfle i ddod â'i beiriant cloddio'n ôl ar y safle. "
EVAN CHAPMAN
MARK LODWICK - AROLYGU FFOS Y LLOC
"Mae'r tywydd da y dyddiau diwethaf yma wedi ein helpu i ddatgelu mwy o'r archaeoleg sydd wedi'i thorri i'r isbridd naturiol yn fy ardal i. Gan fod y tir yn dal yn wlyb, mae'r holl nodweddion i'w gweld yn glir. Fe fu'r rhan fwyaf o'r tîm yn gweithio i nodi ymylon y nodweddion yn well gan ddefnyddio llinyn. Erbyn nos Iau roedd y ffos yn ddigon tebyg i ddarn o gelfyddyd tir go ryfedd.
Rydym wedi dechrau cloddio'r holl nodweddion y tu allan i wal y lloc, ond dydyn nhw ddim am ildio eu cyfrinachau'n hawdd. Prin yw'r darganfyddiadau y gallwn eu dyddio hyd yma. Serch hynny, rydym wedi casglu rhywfaint o olosg o bob nodwedd, ac fe allwn ni benderfynu a ydym ni am gael dyddiadau radiocarbon yn nes ymlaen.
Erbyn amser cinio dydd Iau roedden ni'n barod i ddechrau cloddio rhan o ffos y lloc. Fe wnaethpwyd cynnydd da, ac roedd pawb yn edrych ymlaen at ddarganfod pethau eleni eto. Oddi mewn i wal y lloc, wrth gloddio ffos fas yn llawn rwbel, fe ddaethpwyd o hyd i naddion fflint cynhanesyddol, ac esgyrn anifeiliaid. Mewn man arall fe gawson ni ddarnau o grochenwaith a allai ddyddio i Oes y Cerrig.
O fewn wythnos fer, rydyn ni wedi darganfod arteffactau cynhanesyddol, rhai o'r cyfnod Rhufeinig a'r Canol Oesoedd Cynnar, y cyfan o fewn un ffos!"
MARK LODWICK
HEATHER JACKSON - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Rwy'n dal i weithio yn ffos Evan hyd nes y cawn ni ychydig mwy o ddarganfyddiadau i mi weithio arnyn nhw. Rydyn ni'n ceisio darganfod hyd a lled y llwyfan cobls o fewn y ffynnon.
Fe gefais i ddefnyddio fy ngwybodaeth ddaearegol heddiw. Roedd Roger, y ffermwr, wedi dod o hyd i fwyell garreg o Oes y Cerrig ar ei dir. Gofynnodd i mi adnabod y garreg. Roedd hyn yn newid braf, yn lle enwi'r ffosilau y mae'r myfyrwyr yn eu gweld yn y creigiau calchfaen ar y safle!"
HEATHER JACKSON







