Bwletin 4
HANES YR YMGYRCH: BWLETIN 4 - 16/8/2000





Y NEWYDDION YN GRYNO
Mwy o law, ond rhagor o ddarganfyddiadau yn falm i'r enaid ar y safle. Fe gafodd ffos Evan dros y ffynnon a ffos Mark dros wal y lloc eu clirio'n dwt, yn barod i gael gwneud gwaith ar y nodweddion.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Mae darganfod wal gerrig o gwmpas tarddle'r ffynnon wedi bwrw mwy o oleuni ar enw'r cae, sef Cae'r Ffynnon Wen, enw y mae Alison Brigstocke, hanesydd lleol, wedi ei olrhain yn ôl i'r 17eg ganrif. Fe ddaethpwyd o hyd i ddarn o botel nionod o'r 17eg ganrif yn rwbel y ffynnon, ond mae'n bosibl na fydd hon yn dyddio'r wal ei hun.
Yn ffos y lloc, fe ddaethpwyd o hyd i nifer o nodweddion. Ond, ar ôl darganfod teilchion priddlestri Rhufeinig yn y rhan hon, mae'n bosibl bod rhai o'r nodweddion yn dod o gyfnod cyn y lloc ei hun."
DR MARK REDKNAP
EVAN CHAPMAN - AROLYGU FFOS Y FFYNNON
"Dros y deuddydd diwethaf, rydw i wedi dod i'r casgliad fod mwyafrif fy ngweithlu yn rhedeg ar ynni'r haul. Ar dywydd gwlyb a glawog, mae'n ymdrech eu cael i weithio o gwbl, ond gynted ag y bydd yr haul yn ymddangos bob pnawn, maen nhw wedi bod yn gweithio'n ddygn.
Er gwaethaf arafwch y cynnydd, rydym wedi llwyddo i dynnu gweddill pridd yr aradr o'r ffos. Wrth wneud hyn mae dwy linell ddiddorol o gerrig wedi dod i'r golwg yn un pen. Yn anffodus, mae'n ymddangos bod y ddwy linell yn mynd y tu hwnt i'r ardal gloddio. Mae hynny'n awgrymu y bydd angen estyn y ffos… Go dda!
Yn y pant o amgylch y ffynnon, rydym wedi dal ati i glirio gweddillion llystyfiant diweddar a phridd du trwm. Bellach rydyn ni'n gallu gweld ardal fawr o wyneb cobls a gafodd ei osod, mae'n debyg, i gadw'r dŵr yn lân. Mae'n bosibl hefyd ei fod wedi helpu i gadw dŵr rhag cael ei amsugno i'r tir."
EVAN CHAPMAN
MARK LODWICK - AROLYGU FFOS Y LLOC
"Yn debyg i ffos Evan, mae'r tywydd wedi llesteirio'r gwaith ac araf fu'r cynnydd. Er gwaethaf y glaw, rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i archaeoleg ddiddorol. Y tu allan i wal y lloc, fe ddaethom o hyd i ymyl allanol ffos y lloc yn ogystal â ffos fechan arall ddydd Sul. Gobeithio y bydd y gwaith cloddio yn gallu dweud mwy wrthym am ddyddiad a swyddogaeth y nodweddion yma. Erbyn nos Fawrth fe lwyddom ni i farcio'r nodweddion gyda llinyn, rhag i fwy o law trwm eu cuddio.
Oddi mewn i'r wal, rydym wedi glanhau o gwmpas yr ardal llawn rwbel a welodd Roger wrth dynnu'r uwchbridd - mae'n edrych yn debyg mai ffos arall yw hon. Wrth lanhau uwchben y nodwedd yma, fe ddaethom o hyd i ddau dalch o botiau Rhufeinig, eto mae'n bosibl mai'r aradr wthiodd y rhain i lawr yma.
Felly tridiau yn unig o gloddio, ac fe ddaethom o hyd i dair ffos a wal!"
MARK LODWICK
HEATHER JACKSON - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Fy niwrnod cyntaf ar y safle ac rydw i wedi dod â'r glaw gyda mi!
Ar ôl crwydro heibio'r ffosydd, fe ddechreuais weithio mewn cornel dywyll yn ardal Evan. Roeddwn yn cloddio llwyfan rwbel tua 2m oddi wrth y ffynnon. Mae'n bosibl bod y llwyfan wedi'i llunio i gadw'r dŵr yn ardal y ffynnon.
Pan oedd hi'n tywallt y glaw, fedrwn i ddim llai na dotio at ymroddiad ychydig o'r myfyrwyr, a ddaliodd ati i weithio er gwaethaf y tywydd. Amser cinio fe ddangosodd Evan y sied ddarganfyddiadau i mi. Yno y byddaf yn gwneud y rhan fwyaf o'm gwaith. Ond prin yw'r darganfyddiadau hyd yn hyn, felly yn ôl â mi i'r ffosydd."
HEATHER JACKSON







