Bwletin 3
HANES YR YMGYRCH: BWLETIN 3 - 15/8/2000





Y NEWYDDION YN GRYNO
Ar ôl gweithio'n galed drwy'r dydd, fe lwyddwyd i agor y ddwy ffos. Erbyn i'r glaw ddod ac atal gwaith y diwrnod, fe ddaeth nifer o nodweddion a darganfyddiadau i'r golwg sy'n argoeli'n dda ar gyfer y tymor sy'n dod.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Er gwaethaf yr awyr lwyd a'r ffaith fod y glaw yn bygwth, rydym wedi gallu agor ein dwy ffos a chael canlyniadau addawol. Fe gliriwyd y ffynnon a thynnu'r llystyfiant/rwbel modern ac fe ddaethom o hyd i'n darganfyddiad cyntaf - sef wal gerrig sych o amgylch y ffynnon.
Buan y cawsom ni ganlyniadau yn ffos Mark Lodwick hefyd, ar ochr ddwyreiniol y lloc - sef cerrig enfawr o wal y lloc, a nodweddion eraill, o boptu iddo.
Fe ddaethpwyd o hyd i ddarnau aloi copr cyntaf y tymor yn barod - sef pin tlws yn ffos Mark Lodwick, a rhan o dlws ger y ffynnon lle mae Evan yn gweithio."
DR MARK REDKNAP
EVAN CHAPMAN - AROLYGU FFOS Y FFYNNON
"Y bore yma fe fuom yn dal ati â'r gwaith da a wnaeth Archie ddoe yn clirio llystyfiant, felly mae gennym well syniad am siâp y ffynnon erbyn hyn. Mae'r ardal dan dd#373;r yn ymddangos yn hirgrwn gyda'r dwˆr yn dod i mewn yn y pen gorllewinol.
Yn y pen hwnnw mae llawer o gerrig mawr, bron fel wal wedi'i gosod yno'n fwriadol i gadw pridd y cae rhag mynd i'r ffynnon. Mae'n bosib fod yna waliau eraill dan y rwbel sy'n llenwi rhannau eraill o'r ffynnon. Wyddom ni ddim eto pa mor hen yw'r nodweddion yma... Mae rhai o'r twmpathau mawr yn edrych yn gymharol fodern, fel y gwelsom ni wrth i Roger (y ffermwr) fynd dros yr ardal gyda jac codi baw.
Fe gawsom ni law ysbeidiol y pnawn yma. Tarfodd hynny ar y gwaith a drysu hwyliau pawb. Ar ôl dweud hynny, fe gododd fy hwyliau pan ddaethon ni o hyd i ran o dlws bylchgrwn i'r de o'r ffynnon! "
EVAN CHAPMAN
MARK LODWICK - AROLYGU FFOS Y LLOC
"Dechrau gwych i'r tymor! Ar ôl briffio'r tîm ar archaeoleg y safle a'n darganfyddiadau hyd yn hyn, fe aeth Roger ati i glirio llawer o'r uwchbridd gyda pheiriant. Wedyn fe fuom yn clirio'r ffos gyda batogau a rhawiau.
Erbyn amser cinio, roedd wyneb allanol wal y lloc i'w gweld yn glir ac rydyn ni wedi gweld gwaelod ffos fechan bosib y tu allan i wal y lloc. I ddechrau, roeddem yn teimlo y gallai fod yn ymyl allanol ffos y lloc, ond gan nad yw ond tua 50cm o led, mae'n fwy tebygol ei fod yn weddillion system gaeau hŷn.
Wrth weithio mewn rhan arall o'r ffos oddi mewn i wal y lloc, fe ddaeth Roger o hyd i glwstwr o gerrig. Gobeithio y byddwn yn dod i wybod mwy am y nodwedd yma fory.
Ar ddiwedd y dydd fe ddaeth y glaw ond, yn debyg i ffos Evan, roeddem ar ben ein digon ar ôl darganfod pin efydd tlws bylchgrwn - roedd darganfod archaeoleg o'r Canol Oesoedd Cynnar yn ei gwneud hi ychydig yn haws dioddef y tywydd garw a'r gwaith caled."
MARK LODWICK







