Bwletin 2
HANES YR YMGYRCH: BWLETIN 2 - 14/8/2000





Y NEWYDDION YN GRYNO
Ar ôl ymlwybro am oriau draw i Ynys Môn, mae'r tîm yn cyrraedd y safle a dechrau cael trefn ar bethau cyn i'r myfyrwyr gyrraedd fory. Awyr las fendigedig yn troi'n law a phawb yn holi tybed beth yw rhagolygon y tywydd ar gyfer yr wythnos nesaf.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Erbyn canol dydd ddoe (dydd Gwener), roedd yr offer i gyd wedi'i lwytho i'r fan a'r car ac roeddem yn barod i gychwyn. Cyrraedd Ynys Môn a chael croeso cynnes.
Y bore yma fe ddaeth pawb i'r safle am 9:30 a dechrau trafod cynlluniau eleni gyda Roger (y ffermwr). Mae ein cynlluniau eisoes wedi newid rhyw ychydig, gan i ni benderfynu estyn ffos Evan i gynnwys ymyl y ffynnon i gyd. Archie oedd yr un a helpodd i ddarganfod y safle, ac fe fu'n brysur iawn yn torri'r brwgaets er mwyn gallu gweld y rhan yma'n well. Fory rydym yn gobeithio dechrau tynnu'r uwchbridd. "
DR MARK REDKNAP
MARK LODWICK - AROLYGYDD FFOSYDD
"Mae tymor 2000 wedi dechrau, o leiaf i rai ohonom ni - roedd hi'n wych bod yn ôl yn Ynys Môn.
Heddiw fe wnes i ganolbwyntio ar ddiffinio'r ffosydd cloddio a sefydlu grid arolwg ar gyfer y safle er mwyn gallu plotio darganfyddiadau eleni yn fanwl-gywir. Yn anffodus fe ddaeth glaw ddiwedd y pnawn i ddrysu pethau, ond rydym yn gobeithio cael tywydd gwell fory a gweddill yr wythnos. "
MARK LODWICK
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD FFOSYDD
"Mae'r diwrnod cyntaf ar y safle bob amser braidd yn chwithig, a doedd heddiw ddim yn eithriad. Ar ôl treulio bore yn cael trefn, fe ddechreuodd lawio, ac fe ddaeth y gwaith i ben am y dydd.
Tra oedd pawb arall yn tacluso'r safle, fe es i draw i Fangor gyda'r bws mini i nôl y myfyrwyr cyntaf oedd yn cyrraedd ar y trên, a mynd â nhw i'r gwersyll.
Roedd y gwersyll yn wlyb diferol erbyn i ni gyrraedd, ond yn ffodus rydym wedi llogi cwpl o gytiau ar y safle eleni -cysgod os bydd pabell rhywun yn gollwng dŵr yn ystod y nos!"
EVAN CHAPMAN







