Bwletin 1
HANES YR YMGYRCH: BWLETIN 1 - 8/8/2000, WYTHNOS CYN DECHRAU


Y NEWYDDION YN GRYNO
Dim ond ychydig ddyddiau sydd cyn i'r seithfed tymor cloddio gychwyn yn Llanbedr-goch, ac mae'r Adran yn ferw gwyllt - pawb yn cynllunio, yn trefnu ac yn cydlynu gwaith cloddio eleni. Aeth Mark Lodwick ar ei wyliau ac ni fydd Heather Jackson ar gael nes i'r gwaith cloddio gychwyn, gan adael Mark Redknap ac Evan Chapman i wneud y trefniadau munud-olaf.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
" Yn groes i'r paratoadau ar gyfer tymor y llynedd, pan fuom ni'n canolbwyntio ar gloddio a chofnodi olion dynol, mae'r tymor hwn yn golygu paratoi ar gyfer y posibilrwydd o ganfod olion palaeo-amgylcheddol o'r dyddodion sydd o fewn y nodwedd a enwyd y 'ffynnon' - pethau fel olion planhigion a phren dyfrlawn. Mae'r targed newydd hwn yn golygu fod gofyn i mi a'm cydweithwyr drafod pa strategaethau a fyddai'n addas yn ystod y gwaith cloddio a wedi hynny - a bydd hyn yn datblygu rwy'n siwr wrth inni gloddio'r nodwedd hon. I ffwrdd â mi nawr i chwilio am fy welingtons a'r llyfr nodiadau hwnnw sy'n dal dwr!"
DR MARK REDKNAP
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD FFOSYDD
" Cafwyd trefn ar y rhan fwyaf o'r offer cloddio a'r ffurflenni cofnodi gwpl o wythnosau'n ôl, yn union cyn i Mark Lodwick fynd i ffwrdd ar ei wyliau. Mae'n bryd nawr i mi gasglu ynghyd yr offer a'r ffurflenni fydd eu hangen ar gyfer prosesu darganfyddiadau. Er nad y fi fydd yn gyfrifol am y darganfyddiadau eleni, arna' i o hyd y mae'r cyfrifoldeb am y gwaith paratoi.
Y cwestiwn mawr bob blwyddyn yw faint o flychau carbord, bagiau plastig a deunyddiau pacio eraill y bydd eu hangen, gan na fydd dyn byth yn gwybod yn union beth y deuwn ni o hyd iddo. Mae'n bwysig fod gennym ni ddigon o bob dim, ond cyfyng yw'r lle sydd yn y fan.
Y peth arall sy'n rhaid i mi ei wneud yr wythnos hon yw checio'r tanc arnofio (sy'n cael ei ddefnyddio i ryddhau siarcol, grawn ayb o samplau o bridd). Rydym wedi cael pwmp newydd ar gyfer hwn eleni felly mae'n rhaid i mi sicrhau bod pob darn ohono'n cydio at ei gilydd."
EVAN CHAPMAN
STEVE BURROW - GWEITHIO AR Y WE
"Bûm i'n treulio'r bythefnos ddiwethaf yn diweddaru'r wefan i'w pharatoi ar gyfer tymor arall o gloddio. Rhoddais weddalennau'r llynedd yn yr archif (gweler y botwm 'tymor 1999' uchod), ac rwy' hefyd wedi bod yn casglu ynghyd ddalennau cefndir newydd, yn trefnu'r gwaith cyfieithu, ac yn gwneud yn siwr yn gyffredinol y bydd y cyfan yn rhedeg yn esmwyth eto eleni.
Wythnos ddiwethaf cafodd y project 'Cloddio am Lychlynwyr' dipyn o hwb pan gafodd ei enwebu yn y rownd derfynol yng nghategori TCG Sianel 4 yng Ngwobrau Archaeoleg Prydain eleni - yn gydnabyddiaeth deilwng i'r holl waith a wnaed gan y tîm ar y dalennau hyn."
STEVE BURROW







