Bwletin 15
HANES YR YMGYRCH: 8 MIS YN DDIWEDDARACH - Mai 2000







ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Ers ein bwletin diwethaf, buom yn dod ymlaen yn dda iawn gyda'r gwaith glanhau a'r gwaith cadwraeth ar y pump ysgerbwd (gweler adroddiad Mark Lewis). Mae Dr Alison Roberts a Dr Jonathan Musgrave, - y ddau o Fryste - wedi llunio adroddiad ar gladdedigaeth 3 (yr un a gloddiwyd gan Julian Richards), ac mi fyddan nhw'n ymweld â Chaerdydd cyn bo hir i weithio ar un o'r ysgerbydau eraill. Erbyn hyn rydym wedi derbyn dyddiadau radiocarbon diddorol iawn ar nodweddion y llynedd: mae siercol o'r haen rwbel yn ffos Mark Lodwick, a oedd yn gorchuddio'r claddedigaethau ac fel petai'n gorgyffwrdd â thu allan y wal, wedi cynhyrchu dyddiad o tua 970-1225 (tebygolrwydd o 95%), sy'n rhoi dyddiad i ni ar gyfer dymchwel y wal; rhoddodd llenwad ffos Mark Lewis ddyddiad o tua 725-745/760-1005, ac mae'r llenwad isaf yn dyddio o tua 670-875 (tebygolrwydd o 95%), sy'n cadarnhau iddi siltio cyn cyfnod adeiladu'r mur amddiffynnol. Rhoddodd y twmpath llosg ddyddiad o tua 1130 - 885 CC (tebygolrwydd o 95%: mewn geiriau eraill, yr Oes Efydd Ddiweddar), sydd unwaith eto yn gwthio'n ôl ffiniau'r cyfnod pryd y bu gweithgaredd o amgylch y ffynnon (dim ond deunydd o'r Oes Efydd Gynnar welsom ni hyd yma)! Wrth i'r gwaith yn sgîl y cloddio fynd yn ei flaen, rydym wrthi'n cynllunio'r gwaith cloddio ar gyfer yr haf sydd i ddod. "
DR MARK REDKNAP
MARK LEWIS - AROLYGYDD FFOSYDD
Gan fy mod i'n gadwraethydd archeolegol, gofynnwyd i mi wneud gwaith cadwraeth ar yr esgyrn dynol a'u hailadeiladu fel bod arbenigwyr yn medru eu hastudio nhw. Bydd yr arbenigwyr yn chwilio am wybodaeth am gorffolaeth, oedran a rhyw yr ysgerbydau, arwyddion o afiechyd neu batholeg alwedigaethol.
Y dasg gyntaf oedd glanhau'r darnau esgyrn cyn eu sefydlogi a'u hailadeiladu. Roedd yr esgyrn wedi dirywio'n gemegol yn ogystal ag yn gorfforol tra'r oedden nhw o dan y ddaear. Roedd llawer yn fân ddarnau, a hynny'n rhannol yn ganlyniad i'r ffaith bod y dyddodion gorchuddiol o flociau carreg galch onglog wedi eu malu nhw. Roedden nhw hefyd yn fregus oherwydd bod rhai o gyfansoddion yr esgyrn wedi rhannol ddirywio'n gemegol tra'r oedden nhw yn y pridd.
Fyddai hi ddim yn bosibl i ailadeiladau esgyrn mor frau heb wneud gwaith cadwraeth arnyn nhw. Mae cadwraeth archeolegol yn rhan bwysig o'r broses archeolegol: mae'n ein galluogi ni i ganfod rhagor o wybodaeth am wrthrychau a'r safle lle cafwyd nhw, gwybodaeth a fyddai fel arall yn mynd tros gof.
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
" Mae'r paratoadau at dymor newydd wedi cychwyn. Bûm yn ymweld â Môn yn ddiweddar i drefnu llety eleni ac i drafod ein cynlluniau ar gyfer y cae y tymor hwn â Roger. Roedd yr ymweliad yn gyfle defnyddiol hefyd i wirio'r union leoliad lle cafwyd pen strap addurnedig o'r nawfed ganrif. Daeth Pete o hyd i hwn yn y cae yn ddiweddar ac fe'i hanfonwyd i'r Amgueddfa i'w adnabod. "
MARK LODWICK







