Bwletin 14

HANES YR YMGYRCH: 4 MIS YN DDIWEDDARACH - 20/12/99

Evan Chapman

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR

"Dros y misoedd diwethaf, buom yn astudio ein cofnodion cloddio ac yn sychu'r ychydig o fagiau o esgyrn anifeiliaid wedi'u golchi a oedd ar ôl.

Un nod pwysig dros y tri mis nesaf fydd cael dyddiadau radio-carbon ar gyfer rhai o'r cyd-destunau allweddol a ddadorchuddiwyd yn ystod y cloddio, fel y terfynlin pridd o dan y wal yng Nghae'r Clostir (ffos Mark Lodwick), y llenwadau rhag-fur yn y ffos, y twmpath llosg yng Nghae'r De (ffos Mark Lewis), yr haen o gerrig yn erbyn ochr allanol y wal, a'r ffos rhag-domen y tu mewn i wal y clostir.

Mae angen pwyso, cofnodi a phacio pob sampl yn ofalus, cyn y gellir ei anfon i'r labordy dyddio i'w ddadansoddi. Gellir prosesu samplau sydd angen eu cyfrif yn y ffordd arferol mewn oddeutu 30 diwrnod.

Yr ail dasg rydym ar fin cychwyn arni (ym mis Ionawr 2000) yw golchi'r pum ysgerbwd ac ailadeiladu'r penglogau. Bydd hyn yn cymryd tua dau fis, a bydd yn arwain at asesiad anatomaidd rhagarweiniol o'r unigolion. Dylem wedyn ddechrau dysgu llawer iawn ynglyn â'r pobl hyn. Ni fyddwn yn dechrau samplo ar gyfer dyddio radio-carbon hyd nes y bydd ein harbenigwyr wedi cael cyfle i archwilio'r holl weddillion ysgerbydol.

Cyfarchion y Tymor oddi wrth bawb yn yr Adran Archaeoleg a Nwmismateg. Gobeithio y byddwch yn gallu ymweld â'r wefan ar ei newydd wedd yn 2000!"

DR MARK REDKNAP

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales