Bwletin 13
HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 23 - 13/9/99, YN ÔL YN YR AMGUEDDFA




ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Ddydd Sadwrn, ar ôl cymryd samplau pridd o wahanol lefydd (er mwyn edrych ar wahanol fathau o bridd/gwaddod o wahanol gyfnodau), roedd angen bwrw un golwg olaf ar y cynlluniau a darluniau o'r rhannau. Fe wnaed rhai darganfyddiadau munud olaf, yn eu plith roedd pin cylchog aloi copor (pin i'w roi ar yr ysgwydd i gau gwisg o'r 10fed ganrif; fe gafwyd hyd i enghreifftiau tebyg yn ystod y tymhorau blaenorol) a sawl darn o freuan (carreg i falu grawn). Unwaith eto, diolch o galon i bawb a fu'n helpu gyda'r gwaith cloddio eleni (ar y safle, ac mewn mannau eraill)!
A ninnau'n ôl yn yr Amgueddfa erbyn hyn, fe fyddwn yn prosesu'r darganfyddiadau a llunio rhestr o'r anghenion cadwraeth a storio, a'u gosod yn nhrefn blaenoriaeth. Byddwn yn aildrefnu archif y safle, a datblygu'r holl roliau ffilm a'u catalogio. Cyn bo hir fe fyddwn yn cytuno ar gynllun i archwilio'r sgerbydau, a byddaf yn dewis samplau o siarcol er mwyn cael dyddiad radiocarbon.
Fe fydd y camau ar ôl cloddio yn cymryd beth amser, ac felly ni fydd ein tudalennau ar y we yn cael eu diweddaru tan 10 Rhagfyr. Beth am roi'r dyddiad hwnnw yn eich dyddiadur er mwyn i chi gael darllen am y datblygiadau diweddaraf! "
DR MARK REDKNAP
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
"Cyfres o ddiwrnodau hir yn arwain at ddiwrnod haeddiannol o wyliau cyn dychwelyd i'r Amgueddfa fore Llun.
Fe gawson ni ddiwrnod reit dda ddydd Gwener (sef ein diwrnod olaf mewn gwirionedd). Fe wnaethon ni orffen cofnodi'r ffos a chymryd samplau pridd o'r gwahanol haenau yn ffos y lloc a dan un o'r cerrig yn y wal. Ddiwedd y dydd fe fuom yn cymryd 'lefelau' dros y ffos, er mwyn cyfrifo pa mor uchel yw'r wal a'r ffos uwch lefel môr a chael syniad o raddiant arwynebau'r ffos. Yna bu'n rhaid ffarwelio â thîm gwych gyda'r nos a diolch yn fawr am eu gwaith caled i gyd.
Fore Sadwrn, fe gododd pawb yn gynnar ac ar ôl clirio ychydig roeddem ni ar y safle unwaith eto. Y tro hwn, roedd y myfyrwyr a'r gwirfoddolwyr wedi mynd. Fe fues yn gweithio gyda Dave i osod pegiau grid gan obeithio eu bod nhw'n ddigon pell o gyrraedd y gwartheg a'r aradr. Pan fydd y Roger y ffermwr yn cael ei gae yn ôl a llenwi'r ffosydd eto, fe fyddwn yn colli adnabod ar y safle. Dyna pam mae'n bwysig cadw pwyntiau grid arbennig ar y safle er mwyn gwybod yn union lle buom yn gweithio cyn hynny a lle dylem osod ffosydd newydd.
Yna daeth yn bryd gadael Môn a wynebu taith hir yn ôl i Gaerdydd. Cyrraedd y brifddinas a dadlwytho'r fan yn yr Amgueddfa. Roedd llawer o'r offer yn mynd yn syth at dîm arall sy'n dechrau cloddio ddydd Llun.
Mae llai o bwysau arnom erbyn hyn, a thros yr wythnosau nesaf fe fyddaf yn dechrau cael trefn ar yr offer cloddio a'u cadw. Yna gallaf droi at ddadansoddi llawer o'r data a ddaeth i'r fei dros y tair wythnos. "
MARK LODWICK
MARK LEWIS - AROLYGYDD FFOSYDD
[Mae Mark Lewis wedi dianc yn ôl i fod yn Fyfyriwr Cadwraeth MSc]
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Yn ôl yn yr Amgueddfa erbyn hyn, yn dilyn diwrnod 12 awr, diwrnod arall 14 awr a diwrnod o wyliau gwerth ei gael.
Ddydd Gwener fe gafwyd samplau cleiog iawn i'w harnofio, o lenwadau yn ffos Mark Lewis. Fe gymerodd y rhain hydoedd i'w prosesu. Yna fe gawsom y fraint o lanhau'r drwm arnofio a'r tanciau gwaddodi. Mae'n anodd credu y gallai rhywun gasglu cymaint o waddod mewn tair wythnos. Fe gymerodd hyn lawer mwy o amser na'r disgwyl ond fe lwyddais i osod yr holl ddarganfyddiadau oedd yn weddill mewn bagiau, cyn rhoi'r ffidil yn y to am y diwrnod.
Ddydd Sadwrn, fe fues i'n pacio poeth, rhuthro o gwmpas y lle fel peth gwyllt, a gwneud popeth a wnes i yn ystod y deuddydd cyntaf - ond o chwith:
- golchi'r bysiau mini;
- mynd â nhw'n ôl (ac unrhyw fyfyrwyr oedd yn dal y trên) i Fangor;
- twtio'r gwersyll;
- pacio'r darganfyddiadau ar gyfer eu cludo;
- llwytho'r fan;
- gyrru'n ôl i Gaerdydd;
- dadlwytho'r fan.
Yn ôl yn yr Amgueddfa, rwy'n mynd i dreulio'r wythnos yma'n rhoi trefn ar y darganfyddiadau; gorffen y gwaith papur; a gweithio trwy'r domen o bapur sy'n eistedd ar fy nesg yn fy nisgwyl!"
EVAN CHAPMAN







