Bwletin 11
HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 18 - 7/9/99







Y NEWYDDION YN GRYNO
Mae glaw trwm wedi tarfu ar y prosiect am y tro cyntaf. Bu Mark Lodwick yn cymryd stoc o'r gwaith yn ei ffos tra bu Mark Lewis druan yn gwylio ei ffos yn diflannu dan ddŵr.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
" Mae glaw wedi amharu ar waith y deuddydd diwethaf. Ar ôl i'r glaw trymaf beidio, fe gafodd y ffosydd eu pwmpio neu eu sychu â sbyngau, a llwyddwyd i barhau â'r gwaith. Er bod y gwlybaniaeth yn achosi problemau i ddechrau, mae'n gallu bod yn fanteisiol yr un pryd. Mae'n dod â'r lliwiau naturiol yn ôl i'r nodweddion hynny a graswyd gan yr haul, ac mae'n golygu bod modd defnyddio trywel mewn mannau oedd yn arfer bod yn rhy galed.
Dros y deuddydd diwethaf, bu rhai ohonom yn glanhau ymylon ffin cae diweddar a ffos sy'n hollti ein lloc. Yn dilyn gwaith ardderchog Tudur yn glanhau ymyl ddeheuol y ffos sy'n gwahanu'r ddau gae lle'r ydym yn cloddio, fe gafwyd rhan bwysig arall o'r jig-so. Fe ddaethpwyd o hyd i wal y lloc yng nghornel de-ddwyrain y safle. Mae'r cliw yma'n rhoi ffiniau cyflawn y lloc! "
DR MARK REDKNAP
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
" Ers dydd Sul, y gwaith pennaf yn y ffos fu cofnodi'r archeoleg helaeth a ddaeth i'r fei dros y pythefnos diwethaf. Bu'n rhaid i Dave Stevens (arolygwr y safle) weithio'n galed i baratoi cynlluniau o'r holl nodweddion archeolegol yn y ffos. Bu'r gweddill ohonom yn trafod dilyniant y dyddodion yn ffos y lloc, a'r gyfres gymhleth o doriadau ac aildoriadau a welwyd yn yr ochr, a'r 'malc' sydd heb ei gloddio ar draw y ffos.
Fore dydd Mawrth fe fu'n rhaid clirio ar ôl y glaw trwm dros nos, gan osgoi'r mannau hynny oedd wedi'u cloddio eisoes. Un peth da am y glaw oedd ei fod wedi rhoi cyfle i ni ymchwilio i nodwedd linol newydd (sef gwaelod ffos wedi'i haredig, mae'n debyg). Roedden ni wedi sylwi arni gyntaf wrth lanhau yn ystod yr wythnos gyntaf. Erbyn diwedd y dydd, roeddem wedi olrhain hyd a lled y nodwedd. Mae'n ymddangos bod ffos y lloc yn ei thorri, ac felly mae'n gynharach na hynny, cyn-OC 700 mae'n debyg. Mae'r archeoleg yn dal i fynd ymhellach ac ymhellach yn ôl. "
MARK LODWICK
MARK LEWIS - AROLYGYDD FFOSYDD
" Bwrw glaw yn sobor iawn, Wel dyna bnawn anghynnes... daeth pawb i'r gwaith heddiw a gweld bod ein ffos yn llawn d?r ar ôl cawodydd trwm yn y nos. Gan fod dŵr dros fetr o ddyfnder mewn sawl man, bu'n rhaid llogi pwmp i glirio'r ffos (ffigur 2: llun y pwmp ar waith). Fe ddiflannodd hanner y pnawn yn clirio'r dŵr. Mae'n hawdd gweld sut mae'r haenau mawn wedi ffurfio yn yr ardal: mae'n debyg fod yr ardal yn gorslyd ddechrau'r canol oesoedd.
Tua diwedd y dydd, dywedodd Archie ei fod wedi derbyn signal gyda'i beiriant canfod metel ger y pydew a gloddiwyd yn llenwad y ffos i wagio'r d?r o ran ddofn y ffos. Gwyliais wrth i Catherine, Archie a Roger edrych yn y mwd a'r silt ger y pydew a dod o hyd i arteffact aloi copor, ar ffurf aderyn, mewn cyflwr gwych. Fe ddaeth o fewn llenwad y ffos ychydig yn is na ble'r oeddem wedi rhoi'r gorau i gloddio y diwrnod cyn y llifogydd. Oni bai am y peiriant canfod metel, mae'n ddigon posibl na fyddem wedi dod o hyd i'r arteffact yn y mwd a'r silt. "
MARK LEWIS
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
" Dau wedi mynd a dau ar ôl! Mae Claddiad 3 bellach wedi'i godi ac yn ddiogel mewn bocs yn barod i fynd i'r Amgueddfa. Mae Claddiad 5 wedi'i godi ac yn disgwyl cael ei bacio, gan fod prinder ffoil cegin (rydyn ni wedi prynu peth erbyn hyn). Mae ffoil yn ddeunydd pacio defnyddiol gan nad yw'n adweithio llawer â phethau eraill, ac mae'n rhoi cynhaliaeth dda i'r esgyrn, gan eu bod nhw braidd yn frau.
Mae'r dasg o brosesu darganfyddiadau yn dal i fyny â'r cloddio, ond a ninnau yn ail hanner yr wythnos olaf, rwy'n dechrau poeni a fydd yr esgyrn a olchwyd yn sychu mewn pryd, i'w gosod mewn bagiau erbyn pnawn Gwener. "
EVAN CHAPMAN







