Bwletin 10
HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 16 - 5/9/99








ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
" A ninnau bellach ddwy ran o dair o'r ffordd drwy'r gwaith cloddio, mae'r darlun cyffredinol yn llawer mwy eglur. Yn ffos Mark Lewis, fe lwyddwyd i ddod o hyd i gornel deheuol y lloc ac ymyl mewnol y ffos, ac wedi darparu tystiolaeth bendant dros hyd a lled y safle yn y 9fed a'r 10fed ganrif. Yr hyn sy'n ddiddorol dros ben yw'r dilyniant - sef ym mha drefn y digwyddodd pethau:- twmpath cerrig gyda llawer o siarcol wedi llosgi (Neolithig ynteu Oes yr Efydd?)
- arwyneb tir wedi'i gladdu (cyn cyfnod y lloc), wedi'i selio gan...
- bridd wedi'i gloddio o'r ffos pan gafodd ei thorri (dechrau'r canol oesoedd).
Byddwn yn samplu llenwad y ffos ar y safle gan ddefnyddio techneg arnofio (mae Evan Chapman wedi egluro'r broses mewn bwletin blaenorol) i geisio cael tystiolaeth amgylcheddol ar ffurf hadau, ac ati.
Fe fydd yn cymryd ychydig ddiwrnodau eto i gofnodi'r sgerbydau. Ar ôl astudio'r llenwad yn y ffos o dan y sgerbydau, ceir awgrym o dri cham:
- ffos gynnar, lydan, fas
- aildorri'r ffos yn ddyfnach
- aildorri'r ffos eto, gyda gwaelod mwy gwastad.
Mae'r trawstoriadau ar draws y ffos wedi'u gorffen erbyn hyn a'r ffotograffau wedi'u tynnu. Mae'r rhain yn cael eu darlunio wrth raddfa erbyn hyn, gan ddangos y gwahanol nodweddion. Gyda'r cofnodion manwl hyn bydd modd cymharu'r dilyniant yn y fan hyn â thrawstoriadau mewn rhannau eraill o'r lloc, er mwyn cael darlun cynhwysfawr o system y ffosydd ar y safle. Yn debyg i ffos Mark Lewis, rwy'n gobeithio y bydd techneg arnofio yn datgelu tystiolaeth amgylcheddol. "
DR MARK REDKNAP
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
" Dyma gychwyn ar yr wythnos olaf ac mae popeth fel petai'n mynd yn ôl y disgwyl. Fe orffennodd 'Meet The Ancestors' ffilmio'r gwaith cloddio ac roedden nhw i'w gweld yn fodlon.
Ddydd Gwener, gynted ag yr oedd Dave wedi gorffen llunio cynllun o'r ardal o gwmpas pen claddiadau 3 a 5, fe godwyd y penglogau. Bu'n rhaid bod yn hynod ofalus wrth eu codi rhag iddyn nhw ddirywio ymhellach. Roedd y rwbel a bentyrrwyd ar yr esgyrn wedi'u gadael mewn cyflwr bregus iawn. Rhag i gyflwr y penglogau waethygu, fe wnaeth Mary Davis (cadwriaethwr y safle) osod haen o 'cling-film' dros bob penglog a Plastr Paris dros yr haen er mwyn rhoi cadernid wrth eu codi a'u cludo. Y gobaith yw y gellir ail-lunio wyneb y person yng nghladdiad 3 - a rhaid cadw holl esgyrn brau yr wyneb yn gyfan er mwyn gwneud hynny!
Ddydd Sul, fe ddechreuwyd cofnodi gweddill esgyrn y claddiadau er mwyn eu codi yn ddiweddarach yn ystod yr wythnos. Mewn rhannau eraill o'r ffos fe fu pawb yn gweithio'n galed iawn mewn gwres llethol er mwyn cyrraedd gwaelod y ddau doriad trwy ffos y lloc. Erbyn diwedd y Sul roedd y tîm wedi llwyddo i gyrraedd gwaelod y ffos yn y ddwy ran a bydd modd dechrau eu glanhau ar gyfer cofnodi.
Ar ochr arall y wal am y lloc fe fuom yn cloddio gweddill y tomenni sbwriel (sbwriel domestig / anheddu) a chawsom syndod wrth ddod o hyd i ffos fas oddi tanodd, yn llawn sbwriel. Wrth ddefnyddio dyddio radiocarbon ar waelod y domen sbwriel yn 1997 fe wyddom i'r domen sbwriel gael ei sefydlu yn y5ed - 6ed ganrif, gan awgrymu bod y ffos yma wedi'i thorri'n gynnar.
Bu'n chwith gennym golli aelod gwerthfawr arall o'r tîm heddiw. Bu'n rhaid i Mathew Reynolds ddychwelyd adref i weithio ar ei gwrs Safon Uwch cyn dechrau ar yrfa ym maes archeoleg. "
MARK LODWICK
MARK LEWIS - AROLYGYDD FFOSYDD
" A ninnau bellach wedi cyrraedd yr haenau archeolegol, mae'n ymddangos bod pethau'n digwydd ym mhobman yr un pryd. Erbyn hyn rydyn ni wedi dod o hyd i ran o'r ffos, ac wedi'i chloddio'n rhannol (ffigur 2). Mae'n llenwi â dŵr gan ei bod dan y lefel trwythiad i raddau helaeth. Y gobaith yw y bydd gweddillion organig wedi'u diogelu'n dda yn y rhan hon o'r ffos. Mae gris siâp V ar yr ymyl mewnol y ffos yn debyg i nodwedd a gofnodwyd ar ochr ddwyreiniol y safle. Mae'n bosibl ei fod yn dwll i ddal palisâd pren.
Er syndod i bawb, rydym wedi sylweddoli bod y deunydd du, (hwnnw roedden ni'n credu oedd yn gymharol fodern) yn cael ei dorri gan y ffos [LLYCHLYNNAIDD]. Mae hynny'n golygu bod y deunydd du yn gynharach na thorri'r ffos. Fe all fod yn gynhanesiol. Fe dynnwyd samplau i gael dyddiad radiocarbon. Mae'r ffos fewnol i'w gweld yn Nelwedd 7, yn troi tuag at y ffos yn y ffos arall. Mae'r ffotograffau o'r awyr o olion crasu yn awgrymu cornel ongl sgwâr yn hytrach na chromlin fel hyn. Trwy gloddio fe gawsom ni ddarlun cywirach, mwy manwl o'r ardal hon. "
MARK LEWIS
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
" Uchafbwynt dydd Gwener oedd helpu i godi'r ddwy benglog. Fel arall, fe ddiflannodd y diwrnod wrth i mi ruthro'n lloerig o un peth i'r llall heb lwyddo i brosesu unrhyw ddarganfyddiadau. Heddiw, ar y llaw arall, fe dreuliais ddiwrnod cyfan yn prosesu darganfyddiadau, clirio'r holl esgyrn anifeiliaid oedd angen eu golchi, a phrosesu tua phymtheg o samplau trwy eu harnofio.
Mae'n dda i mi wneud hynny oherwydd heddiw fe ddechreuodd Mark Lodwick gloddio'r tomenni sbwriel o ddifrif, ac felly mae esgyrn anifeiliaid yn dechrau ymddangos o bob cyfeiriad. Mae sôn hefyd am bentwr o ddyddodion o'r ddwy ffos i'w harnofio - a hynny fesul berfa. Ac wrth i'r sgerbydau gael eu codi, bydd angen pacio'r cwbl
Mae'n ymddangos erbyn hyn bod y system arnofio yn gweithio'n dda. Fe gafwyd problem fach yn wreiddiol pan sylweddolais i nad oedd y batri i redeg y pwmp ddim yn gweithio'n iawn. "
EVAN CHAPMAN
DAVE STEVENS - AROLYGWR A CHYNLLUNYDD Y SAFLE
" Ar ôl pythefnos o ddarganfyddiadau, mae'r pwyslais yn newid ryw ychydig; mae'r pwyslais erbyn hyn ar gofnodi'r safle yn ofalus. Fel dyluniwr, mae hynny'n golygu cynhyrchu cofnod manwl o bopeth a gafodd ei ddarganfod ar y safle.
Ar ôl cynnal arolwg cyffredinol am wythnos, rwy'n cofnodi'r claddiadau erbyn hyn. Maen nhw'n proffwydo glaw ddydd Mawrth, ac felly mae pwysau mawr i gofnodi'r sgerbydau a'u codi. Fe ddechreuais ar y gwaith ddydd Gwener trwy ddarlunio'r penglogau cyn i dîm 'Meet The Ancestors' ffilmio'r dasg o'u codi. Ddydd Sul, fe ddaliais ati i gofnodi Claddiad 3 er mwyn iddyn nhw gael ei godi i ddatgelu Claddiad 4.
Bydd yr holl gladdiadau wedi'u cofnodi erbyn dydd Mawrth ac yna fe fyddaf yn cael canolbwyntio ar wal a ffos y lloc, a ffos Mark Lewis. "
DAVE STEVENS







