Bwletin 9
HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 13 - 2/9/99






ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Fe gawson ni seibiant bach wrth i dîm y gyfres deledu 'Meet the Ancestors' alw draw. Gyda nhw roedd Julian Richards (y cyflwynydd) a'r arlunydd Jane Brayne. Yn garedig iawn cytunodd Julian i gloddio claddiad 'dwbl' eithaf cymhleth (rhifau 3 a 4 - edrychwch ar y darlun yn y bwletin diwethaf), a chafodd Steve ddal ymlaen â chladdiad arall (rhif 5). Mae'r ffordd y mae'r unigolyn yma'n gorwedd yn anghyffredin hefyd, gyda'r pen wedi'i droi i un ochr, a'r arddyrnau'n agos at ei gilydd o flaen y corff. Ar ôl treulio diwrnod (ddoe) yn gweithio gyda Steve ar y tri chladdiad, fe lwyddais heddiw i ganolbwyntio ar y plentyn sydd yn ei gwrcwd (rhif 2). Mae esgyrn y plentyn yn frau iawn, a rhaid cael amynedd Job wrth dynnu'r clai gludiog yn ofalus gyda help sbatiwla pren a chwistrell ddŵr.
Diwrnod arbennig o dda - gydag archeoleg y ddwy ffos yn dod i'r amlwg. Bellach rydyn ni'n gwybod lle mae ffosydd y lloc yn y ddwy ffos lle rydyn ni'n claddu, ac maen nhw'n union lle'r oeddem wedi eu rhagweld. Fe gawson ni help llaw gwerthfawr gan Roger y Ffarmwr wrth iddo godi'r tîm cynhyrchu yn uchel i'r awyr i gael golwg ar y safle o'r awyr. Ar ddiwedd y dydd wedyn fe ddefnyddiodd Roger beiriannau i gloddio trwy fawn a chlai caled yn y cae lle mae ffos Mark Lewis. "
DR MARK REDKNAP
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
"Mae pethau wedi symud ymlaen yn dda dros y deuddydd diwethaf wrth i ni gloddio'r sgerbydau. Ar ddydd Iau wedyn fe gawson ni gymorth gwerthfawr a gwybodaeth arbenigol Julian Richards a gweddill criw 'Meet The Ancestors'.
Erbyn hyn mae'r sgerbydau yn amlwg yn y cynllun, ac mae'n rhaid dechrau'r gwaith manwl o gofnodi'r perthnasoedd cymhleth rhwng y priddoedd o gwmpas a'r haenau isod. Bnawn dydd Iau fe ddaeth Mary Davis atom. Mae Mary yn gadwraethwr archeolegol yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Roedd hi'n gallu rhoi gwybodaeth a chyngor arbenigol ar godi, pacio a chludo'r gweddillion bregus. Yn ystod y prynhawn bu'r tîm yn trafod a ddylid codi'r penglogau gyda'r pridd o'u hamgylch, er mwyn eu harchwilio yng Nghaerdydd, ynteu eu harchwilio ar y safle gan gofnodi'r esgyrn yn y fan a'r lle yn fanylach, er mwyn ystyried yr holl gysylltiadau stratigraffig.
Mewn rhan arall o'r ffos, fe dalodd y gwaith caled ar ei ganfed wrth i ymylon ffos y lloc ymddangos. Penderfynwyd cloddio gwaelod y ffos mewn dau le un metr o led, un ar hyd y malc ac un ymyl y ffos. "
MARK LODWICK
MARK LEWIS - AROLYGYDD FFOSYDD
" Fe gawson ni ddiwrnod hynod lwyddiannus yn ein twll ni! Bu Tudur ac Alice yn dilyn haen o dywod naturiol nes dod o hyd i doriad y ffos y buom yn chwilio amdani. Ar ôl cofnodi popeth, fe ddechreuon nhw dynnu haen uchaf y llenwad yn y ffos. Ar ôl cael te pnawn fe sylwom ni fod y ffos wedi dechrau llenwi â d?r (a hithau wedi bod yn boeth a heulog am ddeuddydd). Rydyn ni wedi cyrraedd lefel trwythiad (lefel y d?r yn y tir) lai nag un metr o wyneb y tir a chwta 20cm dan doriad ffos sy'n debygol o fod yn llydan a dwfn!
Mae'r haen ddu yn dal i dyfu - wyddom ni ddim am ba hyd. Cyn bo hir fe fyddwn yn troi'n ôl at y wal a gafodd ei difrodi gan yr aradr, a'r lefelau tir sy'n cyfateb iddi (y tu mewn i'r wal a'r tu allan). Byddwn yn chwilio'n benodol am ffos y tu hwnt i'r wal yn y fan hyn. "
MARK LEWIS
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Cymharol ychydig o ddarganfyddiadau sy'n dod i law ar hyn o bryd, ac mae hyd yn oed y tywydd yn gwneud fy mywyd yn haws eleni. Tywydd sych, cynnes heb lawer o haul cryf - tywydd perffaith ar gyfer sychu! Ond mae'r gwaith o godi'r sgerbydau ar fin dechrau felly mae'n siwr y bydd fy ngwaith rhan-amser yn troi'n llawn-amser yn fuan iawn.
Mae'r peiriant canfod metel yn dal i ddod o hyd i lawer o lafnau bach iawn. Maen nhw'n gyffredin iawn yma ac yn nodweddiadol o'r safle ers rhai blynyddoedd. Daethpwyd o hyd i ben strap o'r canoloesoedd cynnar wedi'i wneud o aloi copor ac wedi'i addurno - un i gadw Mark Redknap yn hapus. A daethpwyd o hyd i dlws bwa un darn mewn cyflwr eithaf gwael, ond mae'n ddigon i fy nghadw fi'n fodlon gan ei fod yn perthyn i ddiwedd Oes yr Haearn neu'r cyfnod Rhufeinig Cynnar iawn (y ganrif gyntaf OC). "
EVAN CHAPMAN







