Bwletin 8
HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 11 - 31/8/99





Y NEWYDDION YN GRYNO
Mae'r dirgelwch yn parhau wrth i'r sgerbydau yn y ffos gael eu datgelu a Mark Redknap geisio dweud sut y buon nhw farw. Mewn rhan arall o'r safle, bu Mark Lewis yn gwahaniaethu rhwng archeoleg fodern a hynafol, ac Evan yn dal i ddisgwyl am ragor o ddarganfyddiadau.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Daeth yn bryd ystyried cyd-destun ein claddiadau, a chynnig ambell i awgrym am ddigwyddiadau'r gorffennol! Y llynedd fe gawson ni hyd i siarcol yn llenwad y ffos dan gladdiad 1 (oedolyn ifanc). Mae hwnnw'n rhoi dyddiad radiocarbon o OC 620-775. Mae hyn yn awgrymu i'r ffos gael ei defnyddio yn ystod y 7fed a'r 8fed ganrif, a'i bod wedi siltio'n araf dros y cyfnod hwnnw. Erbyn y 9fed ganrif mae'n debyg ei bod yn debycach i bant hir, dim ond hanner ei dyfnder gwreiddiol. Mae'r dyddiad radiocarbon ar gyfer claddiad 1 (sef OC 770-970) yn ein helpu i ddyddio'r claddiadau eraill. Erbyn hyn mae'n ymddangos mai un digwyddiad sydd yma - gyda'r pump yn cael eu claddu'r un pryd.
Mae natur y claddiadau yn rhyfedd: ni chafodd yr un o'r unigolion eu claddu gydag unrhyw ddefod na gofal. Does yr un ohonynt fel petaent wedi'u gosod yn ofalus na'u gosod yn wynebu cyfeiriad arbennig (siâp y pant sy'n pennu hynny), ac mae'n ymddangos iddyn nhw gael eu gorchuddio â llwythi o gerrig a gwastraff o'r gegin. Nid gweithred gariadus perthnasau llawn galar sydd yma, ac mae nifer o gwestiynau ac atebion posibl yn dod i'r meddwl:
1. Os mai pobl leol ym Môn Gristnogol oedd y rhain, pam na chawson nhw eu claddu'n wynebu dwyrain-gorllewin, neu mewn mynwent leol? Opsiwn 1: roedden nhw'n dioddef o newyn neu haint (pla), a'r drefn gymdeithasol wedi chwalu dros dro. Opsiwn 2: eu bod yn byw ar y safle, a'u bod wedi'u lladd yn sgîl trais o ryw fath. Cawsant eu claddu naill ai gan yr ymosodwyr a feddiannodd y safle, neu gan aelodau'r gymuned leol. Mae'n bosib bod anhrefn cymdeithasol yn bodoli yn dilyn y cyrch, a'u bod wedi cael gwared ar ffynhonnell bosibl o haint cyn gynted ag yr oedd modd.
2. Ai ymosodwyr oedd y rhain (Llychlynwyr?). Mae hynny'n annhebygol, gan fod yma blant, er ei bod yn bosibl mai ymosodwyr oedd yr oedolion ifanc. Os felly, chawson nhw mo'u claddu yn ôl dull arferol y Llychlynwyr.
Yn ddi-os fe fydd yna esboniadau eraill (efallai y gwyddoch chi am gladdiadau tebyg ar safleoedd eraill?). Wrth i ni gofnodi manylion y claddiadau hyn, rwy'n mawr obeithio y daw trefn debygol y digwyddiadau yn amlwg. Os yw dwylo claddiad 3 wedi'u clymu y tu ôl i'w gefn ef neu hi (darllenwch gyfraniad Mark Lodwick heddiw), bydd hynny'n bwysig. Dyma rai o'r cwestiynau sy'n ein hwynebu - ai dynion oedd y rhain i gyd? A ydyn nhw'n perthyn i'w gilydd (yn aelodau o'r un teulu)? Er bod perygl mewn ceisio cysylltu digwyddiadau archeolegol â digwyddiadau hanesyddol, mae'n werth cofio bod Môn, yn ôl brutiau Cymru, wedi cael ei hanrheithio gan y 'Cenhedloedd Duon' neu Lychlynwyr Dulyn yn OC855. Wyddom ni ddim sawl cyrch a fu heb unrhyw gofnod ohonynt. "
DR MARK REDKNAP
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
"Fe ddechreuodd dydd Llun Gŵyl y Banc trwy fynd ati'n ofalus i godi'r rwbel cerrig yn ffos y lloc uwchben y claddiadau. Bu Mark a Steve yn cloddio'r llecyn gan ddatgelu'r claddiadau yn raddol; erbyn diwedd dydd Mawrth, fe ddechreuon ni ddatgelu cyfres erchyll o ddigwyddiadau. Mae oedolyn wedi'i gladdu, gwryw mae'n debyg, yn union uwchben plentyn, sydd â'i ben wrth draed yr oedolyn. Mae'n bosibl bod breichiau a dwylo'r oedolyn y tu ôl i'w gefn gyda'r arddyrnau yn agos at ei gilydd. Mae hyn yn awgrymu bod ei ddwylo wedi'u clymu y tu ôl i'w gefn pan gafodd ei luchio i'r ffos. Dyna farwolaeth erchyll!
Ar ochr arall y wal, fe ddechreuodd y gwaith cloddio ar y 'domen sbwriel'. Roedden ni'n adnabod y pridd ar ôl bod yn cloddio mewn ardal gyfagos ddwy flynedd yn ôl. Mae'n bridd du iawn, oherwydd bod llystyfiant wedi pydru yng nghanol y sbwriel domestig a gafodd ei gladdu ym mhen yma'r safle. Mae'n golygu bod y pen yma'n cynnwys llawer o ddarganfyddiadau, yn enwedig esgyrn anifeiliaid - digon i gadw Evan a'i dîm yn brysur yn y cwt darganfyddiadau.
Ar ddydd Mawrth, bu'n rhaid ffarwelio â Tim Drew. Bu'n aelod gwych i'w gael yn y tîm, ond bu'n rhaid iddo adael i fynd ar daith maes yn Rhufain. "
MARK LODWICK
MARK LEWIS - AROLYGYDD FFOSYDD
"Bu'n gyfnod prysur gyda'r trywel yn archwilio ar ffiniau ac ymylon yn y mannau a gafodd eu datguddio. Dim ond ar ôl glanhau y daw'n amlwg beth yw hyd a lled yr olion. Mae nodweddion llinol ar letraws ac olion golosg modern wedi dod i'r golwg, yn torri i'r gefnen glai. Mae Roger y Ffarmwr wedi dangos y cynlluniau ar gyfer systemau draenio'r tir a osodwyd ers y1920au. Ond does yr un yn cyfateb i'r nodweddion hyn. Mae'n debyg bod y nodweddion stratigraffig diweddar hyn wedi'u llunio cyn 1920. Mae'r olion golosg yn debyg iawn i'r lludw o drenau stêm, ond mae'n cynnwys llawer o gerrig sydd hefyd yn edrych fel petaen nhw wedi gweld tymheredd uchel iawn dan amodau ocsidio. "
MARK LEWIS
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Dyma flwyddyn hawdd i mi fel cynorthwy-ydd darganfyddiadau. Wel, efallai y bydd raid i mi lyncu fy ngeiriau, ond hanner ffordd drwy'r cloddio ac rydw i'n llwyddo i brosesu'r darganfyddiadau fel ag y maen nhw'n cyrraedd, ac mae yna faint fynnir o amser i edrych ar samplau arnofio o'r blynyddoedd diwethaf.
Mae ansawdd yr esgyrn anifeiliaid sy'n dod o'r domen sbwriel yn ffos Mark Lodwick yn dangos pa mor wael yw safon y rhan fwyaf o'r esgyrn ar y safle. Ar wahân i'r domen sbwriel, mae'r esgyrn bron yn ddieithriad wedi torri'n ddrwg. Yr argraff rydyn ni'n ei chael yw eu bod wedi bod o gwmpas am amser maith cyn cael ei gladdu yn y fan hyn. Mae'r esgyrn yn y domen sbwriel, ar y llaw arall, yn amlwg wedi'u lluchio yno'n syth ar ôl eu defnyddio, ac yno y buon nhw ers hynny. "
EVAN CHAPMAN







