Bwletin 6
HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 6 - 26/8/99






Y NEWYDDION YN GRYNO
Dau ddiwrnod prysur. Mae'r ddwy ffos wedi'u sefydlu ac mae llawer o archeoleg yn dod i'r fei. Er gwaethaf y tywydd gwlyb ddydd Mercher, mae pawb mewn hwyliau da - a hynny'n rhannol oherwydd y gwahanol negeseuon e-bost rydyn ni wedi'u derbyn am ein gwaith. Diolch o galon!
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Bu'r ddau dîm yn gweithio'n andros o galed, ac mae'r holl ymdrechion bellach yn dwyn ffrwyth. Mewn sawl ffordd, roedd ffos Mark Lewis yn mynd i fod yn dipyn o sialens. Mae ei griw wedi gwneud cynnydd mawr yn dod o hyd i wal y lloc, er bod rhywbeth wedi tarfu arni ar ryw gyfnod - cyfuniad o aredig a draenio'r tir mae'n debyg - gan ryddhau neu symud llawer o gerrig. Mae peth o'r clai yn y ffos yn ddiddorol iawn, ond fe hoffwn archwilio'r cysylltiad rhwng y clai a'r cerrig mawr sydd wedi'u gwasgaru o gwmpas, cyn ceisio eu dehongli. Mae'n ymddangos bron yn sicr bod y cerrig mawr yn dod o wal y lloc (yr hyn sy'n weddill ohoni) yn y cae yma.
Fe ddaethpwyd o hyd i rywbeth annisgwyl arall yn ffos Mark Lodwick. Daeth Steve Thompson o hyd i ben-glin oedolyn ifanc arall, yn agos at yr oedolyn ifanc a ddarganfuwyd ychydig ddyddiau'n ôl. Er mai dim ond rhan ohono sydd yn y golwg, fe wyddom yn barod bod y pen yn wynebu tua'r gogledd ac, unwaith eto, mae'r ffordd y cafodd ei gladdu'n ymddangos yn ddigon i ffwrdd-â-hi. Erbyn hyn rydyn ni'n gwybod beth yw hyd a lled y rwbel sydd yn rhan uchaf y ffos, gan fod y tîm wedi bod yn glanhau'r top gyda thrywel. Fe ddylen ni wybod ddechrau'r wythnos nesaf a oes mwy o gyrff o dan y rwbel y tu allan i'r wal. "
DR MARK REDKNAP
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
"Cynnydd da dros y deuddydd diwethaf er bod pethau'n arafach na dechrau'r wythnos. Mae glaw dydd Mercher wedi'n harafu ni, a bu'n rhaid cofnodi'n fanwl y pethau a ddarganfuwyd hyd yn hyn. Bu'n rhaid mynd ati'n fanwl i ddarlunio'r rwbel ychydig y tu allan i wal y lloc (wrth raddfa 1:20) cyn gallu ei archwilio.
Ddydd Mercher fe alwodd tîm cynhyrchu 'Meet the Ancestors'. Maen nhw wedi bod yn dilyn hynt a helynt ein prosiect gyda diddordeb ac fe fuon nhw'n ffilmio'r cynnydd diweddaraf. Maen nhw'n bwriadu dychwelyd yr wythnos nesaf, felly bydd llawer o waith i ddod â'r sgerbydau i'r golwg cyn hynny!
Fe orffennodd Steve Burrow ddarlunio'r rwbel yn fuan ar ddydd Mercher, felly roedd y tîm yn disgwyl yn eiddgar i fwrw ymlaen â'r gwaith cloddio a darganfod beth sydd oddi tano. Tybed a oes rhagor o gyrff wedi'u claddu yno ? Yn y prynhawn fe gawsom gip ar gladdiad rhif 5 wrth i ben-glin ymddangos dan y rwbel - cyffrous iawn, ond sawl claddiad arall allwn ni eu datgloddio yn y pythefnos sy'n weddill? "
MARK LODWICK
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Cymharol ychydig sydd i'w wneud o hyd o ran darganfyddiadau. Mae'r pethau sydd angen eu golchi yn cynyddu'n raddol ond mae'n debyg na fydd yn werth i'r gwirfoddolwyr ddechrau ar y dasg tan yr wythnos nesaf. I weld sut y treuliais y rhan fwyaf o'm hamser, edrychwch ar Ffos Mark Lewis.
Ar y llaw arall, fe dreuliais rywfaint o amser yn gwneud tanc arnofio - hen ddrwm olew gyda un pen wedi'i dorri, gyda phig yn agos at y pen uchaf a phibell yn mynd i mewn iddo yn agos at y gwaelod. Ei bwrpas yw tynnu golosg, grawn wedi'i losgi a phethau tebyg o'r samplau pridd. Mae'r tanc yn cael ei lenwi â dŵr a'r sampl yn cael ei osod mewn rhwyd fân yn agos at ran uchaf y tanc. Yna caiff y dwˆr ei bwmpio trwy'r sampl o'r gwaelod ac allan o'r pig, gan gario unrhyw ddeunydd ysgafn sydd yn y sampl. Yna bydd y deunydd yn cael ei ddal mewn rhwyd fân iawn dan y pig. "
EVAN CHAPMAN
MARK LEWIS - AROLYGYDD FFOSYDD
"Ar ôl cwta ddeuddydd llawn yn y ffos, yn gweithio dan ein poli-dwnnel, mae gennym ddigon o rwbel erbyn hyn yn un fraich y ffos siâp-L i awgrymu bod yma wal. Er nad ydyn ni wedi dod o hyd i wynebau'r wal yn goroesi ar y lefel hon.
Ym mraich arall y ffos fe ddaethom o hyd i glai trwchus wedi'i gywasgu'n dynn ac sy'n cyd-fynd ag (rhedeg yn baralel ag) ôl crasu a oedd i'w weld ar ffotograffau o'r awyr. Rhaid oedd ymestyn ardal y cloddio er mwyn cael mwy o wybodaeth i ddehongli'r nodwedd. Wrth ei ymestyn fe ddaethon ni o hyd i ymyl amlwg iawn i'r clai. Mae'n ddigon posib mai'r clai oedd y rheswm ein bod yn gallu gweld ôl crasu o'r awyr ac i ni ei ddehongli fel wal mewn ardal sydd fel arall yn wlyb, isel, ac yn llawn mawn. Os yw ein wal yn parhau yn yr ardal arbennig yma, mae'n debyg ei bod o fewn y "banc" clai, neu hyd yn oed oddi tano.
Dim wal hyd yma, ond fe ddaliwn ni i chwilio! "
MARK LEWIS
