Bwletin 5
HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 4 - 24/8/99




Y NEWYDDION YN GRYNO
Mae'r ddwy ffos yn brysur erbyn hyn. Mae claddedigaethau yn dod i'r fei yn ffos Mark Lodwick yn ogystal â'r wal amddiffynnol a'r ffos sydd yno'n barod. Megis dechrau y mae ffos Mark Lewis ond y gobaith yw mai yma mae'r wal amddiffynnol o amgylch y safle.
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Mae llawer o bethau wedi peri syndod dros y deuddydd diwethaf - a phob un yn cael croeso. Bu'n dywydd da i gloddio, yn groes i'r rhagolygon, ac ychydig cyn cinio fe ddaeth Mark Lodwick a'i dîm o hyd i esgyrn coes wedi'u claddu yn ei ffos. Un peth diddorol am y sgerbwd hwn yw fod y pen yn wynebu tua'r gogledd, tra bo'r lleill a ddaeth i'r golwg â'u pennau tua'r de.
Mae'r sgerbwd newydd, sef oedolyn ifanc o bosib, wedi'i gladdu tua'r un dyfnder â'r lleill, ac roedd hwn hefyd yn y deunydd sy'n llenwi rhan uchaf y ffos o gwmpas ein lloc.
Wrth lanhau trawstoriad 1998 ar draws y ffos yn y fan hyn, datgelwyd penglog plentyn arall, wedi'i wasgu. Eto roedd yn wynebu o'r gogledd i'r de, gyda'r pen yn wynebu tua'r de. Mae'r darganfyddiadau hyn yn bwysig iawn ac rydym yn parhau i geisio dyfalu beth yw cefndir y claddiadau."
DR MARK REDKNAP
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
"Deuddydd gwych a thîm grêt. Mae pawb wedi gweithio'n galed, ond mae'r cyfan yn werth chweil wrth i ni i gyd gamu'n ôl a gweld ffrwyth ein llafur.
Ddoe bu'r tîm i gyd yn treulio'r diwrnod yn gwagio'r pridd a oedd wedi llenwi rhan o'r ffos a gloddiwyd y llynedd. Erbyn diwedd y dydd roedden ni wedi gwagio'r ffos ger wal y lloc a dod ar draws y sgerbwd dynol a ddarganfuwyd y llynedd ond a adawyd tan eleni.
Hefyd, fe ddaethom ni o hyd i ran newydd o'r wal nad oedd neb wedi'i gweld ers mil o flynyddoedd, ac mae'n bosib ein bod wedi dod o hyd i ddarn o benglog ddynol mewn trawstoriad ar draws y ffos. Rydyn ni wedi dod o hyd i esgyrn coes sgerbwd arall, er bod rhan helaeth o'r enghraifft ddiweddaraf hon y tu allan i'r ffos, fwyaf tebyg. Felly bu'n rhaid i ni agor darn mwy er mwyn cael at y gweddill.
Heddiw bu tîm llai wrthi'n brysur yn dadorchuddio llecyn o rwbel sy'n erbyn ochr allan wal y lloc. Mae'n bosib fod rhagor o gyrff wedi'u claddu dan y rwbel.
Mae'r cyfan yn gyffrous iawn - a dim ond pedwar diwrnod ers i ni ddechrau cloddio!"
MARK LODWICK
MARK LEWIS - AROLYGYDD FFOSYDD
"Tan ddoe fe fues i'n helpu i roi trefn ar ffos Mark Lodwick, ond erbyn hyn fe ddechreuais weithio ar fy ffos fy hun. Fe dynnwyd y rhan fwyaf o'r pridd aredig gyda pheiriant mecanyddol, ac ymhen dim fe sylwom ni ar nifer o gerrig mawr mewn rhes - rhan arall o wal y lloc, tybed? Mae'r ardal o gwmpas y ffos yn wlyb iawn. Mae Roger - y ffermwr - wedi rhoi cynnig droeon ar ddraenio'r tir. Fe ddaethon ni o hyd i lawer o ddarnau o bibellau draenio yn yr ardal hon.
Fe aeth llawer o amser heddiw i dacluso'r ffos - gwneud yr ymylon yn syth a thynnu'r lympiau a adawyd gan y peiriant. Mae hyn wedi cymryd drwy'r dydd bron gan fod y ffos tua 400m sgwâr! Yn ffodus, dim ond rhan siâp-L y byddwn ni'n ei gloddio o fewn y ffos..
Erbyn diwedd y dydd roedden ni wedi glanhau rhan o'r siâp-L, gan ddod o hyd i haen o glai llwyd dan bridd yr aradr. Y cam nesaf fydd edrych ar yr ardal o gwmpas y cerrig i weld ai dyma weddillion wal y lloc mewn gwirionedd."
MARK LEWIS
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Erbyn hyn mae cwt y darganfyddiadau yn hollol barod i brosesu'r darganfyddiadau. Wedi dweud hynny, prin yw'r darganfyddiadau yn ystod y dyddiau cyntaf gan fod angen treulio amser yn glanhau gweddill y pridd aredig er mwyn cyrraedd at yr archeoleg. Felly treuliais y rhan fwyaf o'r amser ar y safle. Mae'n newid braf cael treulio ychydig ddiwrnodau yn gwneud gwaith corfforol, ac mae pâr ychwanegol o ddwylo bob amser yn cael croeso yn y ffosydd.
Hyd yma, fe ddaeth ambell ddarganfyddiad i'w prosesu - pethau ddaeth i'r fei wrth ddefnyddio peiriant canfod metel ar y pridd aredig. Mae yna ddarn o gopor, plwm, a dau lafn cyllell o haearn (rydyn ni wedi dod o hyd i lu o lafnau tebyg yma yn y gorffennol). Rydyn ni wedi nodi lle cafodd y rhain eu darganfod er mwyn eu dangos ar fap o'r safle.
Mae'r holl ddarganfyddiadau metel yn cael eu cofnodi a'u pacio ar gyfer eu hanfon yn ôl i'r amgueddfa. Rhaid cael arbenigwyr i lanhau'r metelau, a chyfleusterau labordy. Does yr un o'r ddau yma ar y safle."
EVAN CHAPMAN







