Bwletin 4
HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 2 - 22/8/99




Y NEWYDDION YN GRYNO
Diwrnod llwyddiannus dros ben! Mae ffos Mark Lodwick wedi cael ei hagor y tu hwnt i wal allanol y lloc, mae yna olion archeolegol yn y ffos, ac i goroni'r cyfan mae'r haul yn dal i wenu!
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Mae'r tîm yn cael seibiant haeddiannol ar ôl treulio rhan helaeth o'r diwrnod yn cloddio a gwthio berfâu. Mae ffos Mark Lodwick yn dechrau altro'n barod, ac rydyn ni eisoes wedi llwyddo i ddadorchuddio rhan uchaf wal y lloc ac ailddarganfod y rhan o'r gladdfa oedd heb ei gloddio'r llynedd (pwyswch y botwm ar gyfer cynllun y safle ar ben y dudalen yma i weld lle mae'r ffos). Ar hyn o bryd mae Roger yn tynnu pridd wedi'i aredig o ffos Mark Lewis yn y cae arall (edrychwch ar gynllun y safle).
Mae yna ddarganfyddiadau yn dechrau dod i'r fei - yn eu plith mae llafn cyllell haearn, a phwysynnau 'lein' plwm - felly rydym yn dechrau cadw Evan yn brysur yn y cwt darganfyddiadau. "
DR MARK REDKNAP
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
"Mae'r gwaith go iawn yn dechrau heddiw!
Fe gyrhaeddodd y tîm yn gymharol fodlon ac fe dreulion ni'r oriau cyntaf yn sôn am y pethau oedd wedi'u darganfod yn y gorffennol, ac yn trafod ein gobeithion ar gyfer yr wythnosau nesaf.
Tua 10 o'r gloch fe ddechreuodd Roger godi'r 30cm o bridd uchaf oddi ar fy ffos - dyna ddyfnder y pridd sydd wedi'i aredig yn y cae. Erbyn iddo orffen hynny roedd ychydig o gerrig mawr yn dechrau dod i'r golwg ar yr wyneb. Yna fe aethon ni ati i glirio gweddill y pridd a thacluso ymylon y ffos gyda batogau, rhawiau a berfâu.
Erbyn amser te y prynhawn, fe allen ni weld y wal amddiffynnol yn torri'n groeslinol ar draws y ffos. Roedd rhan ohoni eisoes wedi'i chloddio y llynedd - roedd plastig glas yn ei gorchuddio - roedd y rhan arall yn newydd i ni. Yng nghanol y ffos fe ddaethon ni o hyd i'r plastig oedd wedi'i osod dros y sgerbwd wrth gloddio'r llynedd, ac mewn rhannau eraill roedd nodweddion eraill eisoes yn dechrau dod i'r fei - esgyrn anifeiliaid mewn un.
Er gwaethaf y gwaith caled, mae'r canlyniad wedi bod yn werth chweil ac mae pawb wedi'i galonogi - rydyn ni am orffen tacluso fory. "
MARK LODWICK







