Bwletin 3
HANES YR YMGYRCH: DIWRNOD 1: EIN HADRODDIAD CYNTAF O'R SAFLE







Y NEWYDDION YN GRYNO
Dyma ddiwedd diwrnod hir... Mae'r ffosydd wedi'u gosod, y gwersyll wedi'i drefnu, a'r gwirfoddolwyr wedi cyrraedd... ac mae'r haul yn dal i wenu!
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
" Wrth i ni yrru trwy Gaernarfon neithiwr a hithau'n noson fendigedig, roeddem yn gwirioni wrth edrych draw a gweld Ynys Môn yn ei gogoniant - arwydd da.
Mae'r tîm wedi treulio'r rhan fwyaf o'r diwrnod yn arolygu'r ddwy ffos, a dadlwytho offer. Rydw i newydd ddringo o waelod ffos draenio, sy'n llawn llystyfiant gwyllt, gyda danadl poethion chwe throedfedd o uchder. Yng nghanol y cyfan mae yna gerrig mawr yn ochr y ffos. Dyma (rwy'n gobeithio) fydd ein golwg gyntaf ar wal amddiffynnol y lloc. Nawr rydym yn disgwyl am jac codi baw i roi help i dynnu'r pridd aredig o'r ffos. "
DR MARK REDKNAP
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
"Fe ddechreuon ni'n gynnar y bore 'ma i ddadlwytho'r holl offer cloddio ar y safle a dechrau mesur y tir i ddangos lle bydd ffosydd eleni'n mynd. Rydyn ni'n defnyddio 'total station' sy'n mesur yn electronig. Mae hynny'n golygu ein bod ni'n llai tebygol o wneud camgymeriadau. Erbyn canol y prynhawn roedd y ddwy ffos wedi'u gosod yn barod i beiriant cloddio Roger (y ffarmwr) godi'r uwchbridd, ac i Archie (sy'n chwilio am fetel ar y safle) chwilio am unrhyw ddarganfyddiadau y gallem ni eu methu.
Mae'n gyffrous iawn gweld y safle yn siapio (uwchben y ddaear o leiaf) ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â gweddill y tîm heno wrth iddyn nhw gyrraedd y gwersyll."
MARK LODWICK
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Dyma ni'n ôl - anodd coelio bod blwyddyn gyfan wedi mynd heibio. Rydw i fel petawn i wedi treulio'r diwrnod yn crwydro nôl a mlaen ar draws yr Ynys. Yn gyntaf i'r safle i ddadlwytho offer o'r fan, yna i'r gwersyll i gael golwg ar y cyfleusterau, yna i Fangor i nôl y bysiau mini ac yna i chwilio am bibellau ar gyfer y cawodydd yn y gwersyll, cyn mynd i'r orsaf drenau i nôl y gwirfoddolwyr cyntaf.
Yn y cyfamser, rydw i hyd yn oed wedi cael amser i ddechrau cael trefn ar y cwt darganfyddiadau - sef hen adeilad yn y ffermdy. Yr un cwt rydyn ni wedi'i ddefnyddio yn y gorffennol ac mae'n ddelfrydol - faint fynnir o le, digonedd o awyr iach ac mae'n sych. Yr unig ddrwg ydi ei fod braidd yn bell o'r ffosydd. "
EVAN CHAPMAN







