Bwletin 2
HANES YR YMGYRCH: WYTHNOS I FYND


Y NEWYDDION YN GRYNO
Gyda llai nag wythnos i fynd, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith cynllunio ar gyfer y cloddio wedi'i wneud ac mae'n amser meddwl am "y pethau bychain" - oes yna ddigon o offer ar gyfer 28 o wirfoddolwyr? oes yna ddigon o fagiau i ddal y darganfyddiadau? Lle'n union fydd y ffosydd yn mynd?
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Saith diwrnod i fynd ac mae'r darnau fel petaen nhw'n disgyn i'w lle. Yn llythrennol felly ar ryw ystyr, gan i mi gael cyfle i dreulio rhywfaint o amser ar benglog llanc a ddaeth i'r fei y llynedd. Byddaf yn treulio'r wythnos yma'n casglu cofnodion a deunyddiau pwysig yn barod ar gyfer mynd i'r safle.
Mae cynllunydd y safle, Dave Stevens, wedi ymweld â'r Adran a pharatoi'r cofnodion arolygu. Bydd hyn yn ein helpu ni wybod yn union lle mae nodweddion y llynedd a lle i roi ffosydd eleni. Ac fe fyddwn ni'n dechrau gwneud hynny - ar y safle - ddydd Sadwrn nesaf. "
DR MARK REDKNAP
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
"Rydw i ar ganol trefnu'r offer a'r ffurflenni i gofnodi'r cloddio ar hyn o bryd. Rydyn ni'n tynnu ffotograffau a gwneud cynlluniau, ond y ffurflenni yw un o'r prif ffyrdd sydd gennym o gofnodi'r archeoleg ddaw i'r golwg. Mae yna wahanol ffurflenni ar gyfer gwahanol bethau: o dudalennau cyd-destun ar gyfer cofnodi nodweddion archeolegol i daflenni cofnodi arteffactau ar gyfer cofnodi'r gwrthrychau y byddwn ni'n dod o hyd iddyn nhw ym mhob cyd-destun. Heb y ffurflenni, fydden ni ddim yn gallu cadw golwg ar y pethau sy'n dod i'r golwg - ac yn sicr fydden ni ddim yn gallu cofio'r cysylltiad rhwng gwaith y llynedd ac unrhyw beth y byddwn ni'n ei ddarganfod eleni.
Yn ogystal â'r ffurflenni arferol ar gyfer cofnodi nodweddion archeolegol, rwy'n gwneud yn siwr hefyd bod gennym ni ddigon o ffurflenni cofnodi sgerbydau er mwyn gwneud nodiadau manwl am y sgerbwd a adawson ni heb ei gloddio ar ddiwedd gwaith y llynedd."
MARK LODWICK
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Fi sy'n gyfrifol am wneud yn siwr bod yr holl offer gennym ni ar gyfer prosesu'r darganfyddiadau - dim byd cymhleth iawn, dim ond brwsys ewinedd, beiros, prennau mesur a bowlenni golchi llestri, a mwy o ffurflenni! Rhaid i mi wneud yn siwr hefyd bod yna ddigon o ddeunyddiau pacio - bocsys a bagiau plastig - i ddal beth bynnag a ddaw i'r fei eleni. Ond dydyn ni byth yn gwybod beth fydd yn cael ei ddarganfod. Wedi dweud hynny, ar ôl ychydig flynyddoedd yn gweithio ym Môn, rwy'n credu bod gen i eithaf syniad beth fydd ei angen - fe gawn ni weld!
Ar wahân i hynny, fe fydda i'n treulio'r diwrnodau nesaf yn gorffen gwneud mân bethau yma, yn y gobaith na fydd gormod o waith yn disgwyl amdana'i pan ddof yn ôl o Ynys Môn ymhen tair wythnos."
EVAN CHAPMAN







