Bwletin 1
HANES YR YMGYRCH: 60 DIWRNOD CYN DECHRAU CLODDIO





Y NEWYDDION YN GRYNO
Mae'r gwaith cynllunio ar gyfer y cloddio yn dechrau ymhell cyn i'r tîm gyrraedd y cae. Hyd yn oed 60 diwrnod cyn i'r cloddio ddechrau, mae llawer o waith caled wedi'i wneud yn barod...
ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR
"Yn gynharach eleni roeddem yn gallu cymharu cynlluniau safle 1998 â rhai'r blynyddoedd cynt, i roi cynllun wedi'i ddiweddaru o'r gwaith cloddio. Fe gawson ni ddyddiadau radio carbon eraill ac mae'r rheini'n ein helpu ni benderfynu beth yn union y byddwn ni'n edrych arno yn y tymor sy'n dod.
Ar hyn o bryd, rwy'n gwneud y trefniadau olaf ar gyfer y gwaith cloddio, ac yn ailedrych ar gofnodion y llynedd. Rwy'n edrych hefyd ar rai o samplau pridd y blynyddoedd cynt, er mwyn iddyn nhw gael eu prosesu."
DR MARK REDKNAP
MARK LEWIS - (AROLYGYDD FFOSYDD CYN BO HIR)
"Dydw i ddim yn gweithio'n llawn-amser i'r amgueddfa felly dydw i ddim yn cymryd rhan yn y gwaith trefnu fel y cyfryw. A da hynny mae'n debyg, oherwydd rwy'n ceisio cwblhau fy nhraethawd ymchwil cyn mynd draw i Ynys Môn. Mae'r traethawd yn sôn am y pigmentau oedden nhw'n eu defnyddio ar bopeth o eirch yn yr Aifft i beiriannau stêm - dim byd am y Llychlynwyr chwaith!"
MARK LEWIS
EVAN CHAPMAN - AROLYGYDD DARGANFYDDIADAU
"Ers gorffen cloddio y llynedd, rydw i wedi bod yn gweithio yn yr amgueddfa - gyda phethau Rhufeinig yn bennaf. Ond hefyd roedd yn rhaid i mi wneud yn siwr bod y darganfyddiadau o Lanbedrgoch yn cael eu glanhau a'u storio'n gywir.
Mae yna wastad ambell i ddarn sy'n dal heb eu glanhau ar y safle ar ddiwedd y gwaith cloddio, felly bydd un neu ddau o fyfyrwyr yn rhoi help llaw i mi gyda hynny. Esgyrn anifeiliaid oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw, a chefais gyfle i chwilio am unrhyw farciau torri neu arwyddion bod rhywun wedi eu trin ag erfyn.
Mae hynny wedi'i wneud erbyn hyn ac rwy'n barod nawr ar gyfer gwaith eleni."
EVAN CHAPMAN
MARK LODWICK - TREFNYDD Y CLODDIO
"Rwy'n gweithio gyda'r casgliadau archeolegol yn yr Amgueddfa pan nad ydw i'n Llanbedrgoch, a fi hefyd sy'n gyfrifol am drefnu ochr ymarferol y gwaith cloddio. Rydw i wedi gwneud eithaf tipyn o hynny yn ddiweddar, ond y peth mwyaf diddorol a ddigwyddodd oedd dod o hyd i ragor o ddarganfyddiadau yn y safle.
Mae'r cae yn Llanbedrgoch yn cael ei ffermio yn ystod y flwyddyn, ac mae Archie Gillespie - sef un o'r bobl gyntaf i ddarganfod y safle - yn cerdded yr ardal i weld beth sy'n dod i'r golwg ar ôl aredig. Ychydig wythnosau'n ôl fe ddaeth â llond llaw o bethau atom. Yn eu plith roedd pwysyn plwm (tebyg i rai a gawsom ni wrth gloddio), troell werthyd ganoloesol, ysgrafelli fflint, crochenwaith a darnau o gyrn carw. Ychydig o bob dim mewn gwirionedd.
Rydw i wedi catalogio'r rhain i gyd a gwneud rhywfaint o waith i'w hadnabod nhw. Erbyn hyn maen nhw gan ein tîm cadwraeth sydd wrthi'n eu glanhau."
MARK LODWICK
MARY DAVIS - CADWRAETH
"Mae rhai o'r darganfyddiadau a ddaeth ataf gan Mark wedi'u gwneud o aloi copor a phlwm - ac maen nhw angen sylw arbennig.
O ran y pethau aloi copor, byddaf yn tynnu lluniau pelydr X i weld a oes unrhyw batrymau neu rywbeth wedi'u cuddio dan y cyrydiad. Yna byddaf yn eu glanhau dan y microsgop. Bydd angen tua hanner diwrnod i lanhau'r ychydig ddarnau y mae Archie wedi'u darganfod yn ddiweddar.
Mae'r plwm yn fwy o her am fod y metel yn feddalach. Er enghraifft, er mwyn glanhau'r pwysyn plwm, bu'n rhaid i mi ei roi mewn toddiant a rhoi cerrynt trydanol isel trwyddo er mwyn i swigod nwy ffurfio ar wyneb y plwm a gwthio'r baw i ffwrdd.
Mae'n broses gymhleth, ond dyma'r ffordd orau o warchod y darganfyddiadau hyn."
MARY DAVIS
STEVE BURROW - GWEITHIO AR Y WE
"Er bod 60 diwrnod ar ôl cyn i'r gwaith cloddio ddechrau, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith caled ar y project ar y we eisoes wedi'i wneud.
Bu'n rhaid i ni drefnu popeth ddigon pell ymlaen llaw er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r project 'Cloddio am Lychlynwyr'. Hyd yma, rydyn ni wedi anfon hysbysebion at dros 20,000 o unigolion a 2,000 o ysgolion. Dim ond dechrau yw hynny!
Ond mae yna dal ambell i broblem i'w datrys. Bu'n rhaid i ni ddefnyddio camera arferol i dynnu'r holl luniau ar y dudalen hon, ac yna eu sganio - dydi'r camera digidol ddim wedi cyrraedd eto. Cwestiwn arall ydi sut gallwn ni reoli'r cyfieithu ar y pryd. Lwcus bod digon o amser ar ôl i ddatrys pethau fel hyn!"
STEVE BURROW
