Tymor 2001
TYMOR CLODDIO 2001 - ein hamcanion

Eleni fydd ein tymor olaf ar y safle, ac mae gennym nifer o amcanion mewn golwg:
- Rydym yn gobeithio cwblhau'r gwaith o gloddio'r darddell a'r gwaddodion canoloesol cynnar a ddarganfuwyd gennym ar lawr y pwll.
- Roedd hi'n ymddangos bod gan y ffwrn, a ddarganfuwyd y llynedd i'r gorllewin o'r darddell, sil mur yn agos iddi: byddwn yn agor llecyn mwy o faint er mwyn darganfod p'un ai a yw hwn yn adeilad arall.
- Gobeithiwn archwilio nifer o'r anomaleddau ar arolwg geoffisegol 1994, megis y toriad ymddangosiadol yn y ffos ar ochr ogleddol y closdir, a allai fod yn fynedfa.
- Byddwn yn cwblhau arolwg geoffisegol o gae'r de er mwyn cadarnhau aliniad y closdir yn y llecyn hwn.







