Tymor Cloddio 2000
Y flwyddyn 2000 oedd y seithfed y treuliodd Dr Mark Redknap a'i dîm yn cloddio yn Llanbedr-goch. Erbyn hyn roeddent eisoes wedi darganfod mur mawr o gerrig a amgylchynai'r anheddiad rhwng oddeutu OC850 ac OC1000. Y tu mewn iddo fe ddadorchuddiodd hefyd nifer o wahanol adeiladau yn ogystal â sawl claddfa ddynol sydd bellach yn cael eu dadansoddi.
Roedd pwysigrwydd y safle ar gyfer astudio Oes y Llychlynwyr yng Nghymru yn amlwg - ond roedd llawer mwy o waith i'w wneud.
Ar ddechrau tymor 2000 dyna a ddywedodd Mark:
'Mae un rhan o'r safle wedi edrych yn addawol iawn o'r cychwyn cyntaf, sef y darddell yn rhan ddeheuol y closdir, ond gohiriwyd y gwaith ymchwil hyd nawr oherwydd roedd yn well gennym ganolbwyntio ar ddeall cynllun sylfaenol y safle. Wrth gwrs, gall pethau annisgwyl a heriadau newydd ddod ar ein gwarthaf, ond fe ddylen ni fod yn barod nawr.'
Dyma gyfle i chi ddarganfod beth y daeth Mark ar ei draws yn y darddell, a darganfod y pethau annisgwyl eraill y daeth wyneb yn wyneb â nhw wrth i dymor 2000 fynd rhagddo.
FFOSYDD 2000
Cloddiwyd dwy ffos yn ystod 1999, Ffos y Darddell a'r Ffos Ddwyreiniol - lleolwyd y ddwy i ateb cwestiynau penodol.
FFOS Y DARDDELL
Goruchwyliodd Evan ffos y darddell a leolwyd er mwyn darganfod mwy am y nodwedd hon a'i phwysigrwydd ym mywydau'r rheini a drigai y tu mewn i'r closdir.


FFOS Y DWYRAIN
Lleolwyd y ffos ddwyreiniol er mwyn darganfod mwy am ran dde-ddwyreiniol y closdir ac arwyddocâd tomen o sbwriel yn y cae. Mark fu'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith yma.









