Tymor Cloddio 1999

1999 oedd y chweched flwyddyn i Dr Mark Redknap a'i dîm fod yn cloddio yn Llanbedr-goch. Erbyn hynny yr oeddent eisoes wedi darganfod wal garreg fawr a oedd yn amgáu'r anheddiad rhwng tua OC850 ac OC1000. Y tu mewn iddi yr oedd hefyd wedi dadorchuddio nifer o adeiladau ac yn ogystal, yn niwedd un tymor 1998, nifer o gladdedigaethau dynol.
Roedd pwysigrwydd y safle o safbwynt astudio Cymru Oes y Llychlynwyr yn eglur - ond roedd llawer o waith eto i'w wneud.
Ddechrau tymor 1999 dyma oedd gan Mark i'w ddweud:
"Mae'r cwestiynau y bydd yn rhaid inni geisio eu datrys eleni yn ymwneud â natur y claddedigaethau a ddarganfuwyd ym 1998 ac â phwy oedd y bobl hyn (a oes rhagor?) yn ogystal â ffurf y wal garreg amgylchynol - pa mor fawr oedd hi? pryd y'i codwyd? a chan bwy?"
Trwy ddilyn y dyddiaduron cloddio hyn, cewch wybod sut y llwyddodd Mark i ateb y cwestiynau hyn, sut y datblygodd ei syniadau, a pha ryfeddodau a ddarganfu ar y daith.
Ffosydd 1999
Cloddiwyd dwy ffos ym 1999, sef Ffos y Wal a'r Ffos Ddeheuol - a lleolwyd y ddwy i ateb cwestiynau penodol.
Ffos y wal
Goruchwyliwyd ffos y wal gan Mark Lodwick, a'i lleoli er mwyn ceisio darganfod rhagor am y claddedigaethau a ddarganfuwyd ym 1998.


Ffos y de
Lleolwyd ffos y de er mwyn darganfod rhagor am derfyn de orllewinol y clostir - Mark Lewis a fu'n goruchwylio'r gwaith yn hon.









