Yr Adeilad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Upward shot of the museum building
Two external shots of the museum building

Adeilad rhagorol sy'n cyfuno pensaernïaeth hen a newydd yw cartre'r amgueddfa. Mae tair elfen i'r adeilad: hen warws gwreiddiol y dociau a Oystermouth Road, a chyntedd canolog sy'n pontio'r ddau brif adeilad. Cafodd y ddau estyniad diweddaraf eu cynllunio gan Wilkinson Eyre a'u hadeiladu rhwng 2002 a 2004.

Aeth cwmni Wilkinson Eyre ati i gynllunio a dewis eu deunyddiau yn ofalus fel eu bod yn cydweddu â'r hen warws hanesyddol. Mae adeilad newydd yr orielau yn dilyn hen lwybrau'r iard reilffordd oedd yn arwain i warws y dociau. Mae'r strwythur newydd sy'n cysylltu'r hen adeiladau â'r rhai newydd yn dilyn llwybr uniongyrchol o ganol dinas Abertawe, ar hyd Princess Way (i'r gogledd o Oystermouth Road) i'r dociau a'r môr. Yn wir, mae bron fel petai "stryd" dan do newydd wedi'i chodi rhwng yr hen adeiladau a'r rhai newydd.

Mae gardd yn y llecyn rhwng yr adeiladau hen a newydd. Saif parc yr amgueddfa rhwng yr adeilad newydd ac Oystermouth Road. Cafodd ei gynllunio i ychwanegu at yr amgueddfa, gyda borderi blodau, llwybrau, a rhes o goed sy'n debyg i batrwm yr hen iard nwyddau a'r orsaf drenau oedd yno cyn y 1960au.

 

Gwybodaeth

Map

Abertawe
Ar agor 10am–5pm bob dydd

Ffôn:
(01792) 638950

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

digwyddiadau

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales