Llinell Amser: Rhai Dyddiau Pwysig
500 milliwn o flynyddoedd yn ôl: creu’r llechfaen
1300au Chwarel Cilgwyn, Nantlle, yn cynhyrchu llechi
1700au
1787 sefydlu Chwarel Dinorwig
1790 Port Penrhyn yn cael ei ddatblygu ar gyfer masnach allforio
1800au
1801 agor Llwybr Tramiau Penrhyn
1818 chwarel y Welsh Slate Company yn agor ym Mlaenau Ffestiniog
1820 adeiladu harbwr Porthmadog
1830 Chwarel Penybryn, Nantlle, yw’r chwarel gyntaf i ddefnyddio incléin gyda chadwynau
1848 defnyddir trenau stêm am y tro cyntaf ar Reilffordd Padarn
1874 sefydlwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru
1874 cyflwynwyd trenau stêm ym Mhorth Penrhyn
1881 mae gan blwyf Ffestiniog dros 11,000 o drigolion
1890 caiff trydan-hydro ei ddefnyddio gyntaf yn Chwarel Llechwedd
1900au
1900–3 Streic Penrhyn, yr hwyaf yn hanes llafur Prydeinig
1918 cytunir ar isafswm cyflog gan berchnogion chwareli a swyddogion undebol
1920au codwyd melinau malu yn Chwarel Penrhyn, i falu gwastraff llechi sy’n cael ei ddefnyddion i wneud heolydd
1940au defnyddir gwastraff llechi i wneud blociau adeiladu
1964 mae cwmni Alfred McAlpine yn prynu Chwarel Penrhyn
1969 cau Chwarel Dinorwig, sefydlu’r amgueddfa
1972 Ceudyllau Llechi Llechwedd yn agor i’r cyhoedd
1999 caiff llwyth mawr o lechi o Chwarel Penrhyn ei ddanfon i Awstralia, i'w defnyddio ar gyfer gwaith adnewyddu wedi storm